Staffnet+ >
Yn galw holl Reolwyr Adrannol Cyngor y Fro – QuickStart
Yn galw holl reolwyr adrannol Cyngor y Fro – QuickStart
Mae CELT+ a Cymunedau am Waith a Mwy yn bwriadu cynnal eu pumed cynllun QuickStart y gwanwyn hwn!
Bydd y fenter yn cynnig hyd at ddeg o leoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc 18-30 oed, wedi'u lleoli ym Mro Morgannwg.
Y nod yw dysgu sgiliau cyflogaeth hanfodol i bobl ifanc i wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.
Allech chi:
- Gynnig cyfle i berson ifanc 18-30 oed sy’n byw yn y Fro weithio yn eich adran chi yn y Cyngor. (Noder, mae’n rhaid i'r swydd fod yn swydd newydd ac ni ddylai ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi eu cynllunio, a/neu achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith na lleihau eu horiau gwaith)
- Cyflogi am chwe mis (wedi ei ariannu i ddechrau drwy QuickStart am y 6 mis cyntaf) cyn cynnig cyflogaeth fwy cynaliadwy i'r ymgeisydd QuickStart ar ôl cwblhau lleoliad yn llwyddiannus (os yw'r ymgeisydd cyflogedig yn bodloni gofynion prawf yr adran)
Os GALLECH chi, byddai'r arian ar gael i:
- Ariannu lleoliad chwe mis, 25 awr yr wythnos yn llawn, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y cyfnod o 6 mis
- Cynnig hyd at £500 fesul ymgeisydd ar gyfer hyfforddiant/adnoddau
- Cynnig hyfforddiant Sgiliau Cyflogadwyedd Cyn Cyflogaeth i ddarpar ymgeiswyr drwy raglen CELT+ a Chymunedau am Waith a Mwy mewn partneriaeth â Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Graddfeydd amser cynllun QuickStart i'w hystyried:
- Bydd Datganiadau o Ddiddordeb yn agor ddydd Llun 17 Chwefror ac yn cau ar 23 Chwefror 2025
- Bydd deg swydd wag yn cael eu hysbysebu o ddydd Llun 3 Mawrth 2025
- Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn cael eu hystyried ar gyfer swydd wag gyflwyno eu datganiad i’r Cydlynydd QuickStart (yn y lle cyntaf) erbyn dydd Sul 9 Mawrth fan bellaf
- Gweithdai cyn cyflogaeth (CV / Sgiliau Cyfweliad) i'w cynnig i ddarpar ymgeiswyr ddydd Iau 13 Mawrth a dylid anfon CVs terfynol erbyn dydd Sul 16 Mawrth 2025
- Trefnir cyfweliadau gan adrannau unigol ar ôl cael CVs, yn yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Mawrth a dylai’r ymgeisydd fod yn y swydd erbyn diwedd mis Ebrill 2025 oherwydd ariannu
Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen datganiad o ddiddordeb er mwyn ystyried y swydd wag.
Ar ôl cael y datganiad o ddiddordeb, bydd y Cydlynydd QuickStart yn cysylltu i gadarnhau'r lleoliad ac i roi mwy o fanylion a thelerau ac amodau.