Diwrnod Shwmae Su’mae
15 Hydref 2024

Mae diwrnod Shwmae Su'mae, sy'n cael ei chynnal yn flynyddol ar Hydref 15fed, yn annog pawb i roi cynnig ar y Gymraeg drwy ddechrau sgyrsiau gyda 'Shwmae' neu 'Su'mae'.
Ar gyfer dathlu'r diwrnod mae'r trefnwyr, Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, yn annog pawb i fynychu digwyddiad i gael blas ar ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol yn eu hardal nhw.
Ymgyrch Diwrnod Shwmae Sumae eleni yw 'Hapus i Siarad'
Mae Menter Bro Morgannwg yn edrych ymlaen at gefnogi’r ymgyrch yma. Os oes gennych chi fusnes gyda gweithwyr sy’n siarad Cymraeg ym Mro Morgannwg, yna cysylltwch â Menter – www.menterbromorgannwg.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y Cyngor, ewch i'n Hyb Cymraeg:
Hyb Cymraeg
Mae mwy o wybodaeth ar ddiwrnod Shwmae Su'mae ar wefan www.shwmae.cymru.