Yr wythnos hon yw Wythnos Profi HIV Cymru!

O 18-24 Tachwedd, mae unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau yn dod at ei gilydd ar gyfer Wythnos Profi HIV Cymru: ymgyrch i annog pobl yng Nghymru i gael prawf am HIV.

Wythnos profi HIV Cymru - delwedd ymgyrch

Mae'r ymgyrch, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn annog pobl yng Nghymru i fanteisio ar y pecyn prawf cartref cyfrinachol, rhad ac am ddim, y mae'n ei alw'n “y dosbarthu cartref pwysicaf y gallwch ei gael”.

Gyda thriniaeth, gall pobl sy'n byw gyda HIV fyw mor hir ac yn iach ag unrhyw un arall. Mae triniaeth hefyd yn eich atal rhag trosglwyddo'r firws ymlaen i eraill.

Cael prawf yw'r unig ffordd i wybod a oes gennych HIV — ac, yng Nghymru, nid yw erioed wedi bod yn haws.

Ers ei gyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2020, mae gwasanaeth profion post ledled Cymru wedi cynyddu profi on trwy ei gwneud yn haws: mae'r pecyn prawf cyfrinachol bellach yn rhad ac am ddim a gellir ei ddanfon i'ch drws.

Wedi'i sefydlu gan wirfoddolwyr yn 2021, mae Wythnos Profi HIV Cymru wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel offeryn effeithiol wrth gynyddu profion a mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV yng Nghymru.

Dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Fast Track Cymru a gwirfoddolwyr cymunedol, mae'r ymgyrch yn symud unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau i ddangos y gall pawb yng Nghymru chwarae eu rhan wrth ddileu achosion newydd o HIV erbyn 2030.

Archebwch eich pecyn prawf cartref cyfrinachol am ddim yma.

 I gael gwybod mwy am yr ymgyrch neu i gymryd rhan, ewch i wefan GIG Cymru.

 

Gellir lawrlwytho delweddau cyfryngau cymdeithasol, posteri a mwy yma.

Fel arall, os hoffech wybod mwy am gymryd rhan yn yr ymgyrch, gallwch gysylltu â samuel.humphrey@wales.nhs.uk