Mae'r Tîm Diogelwch Bwyd yn SRS yn dathlu llwyddiant dau gydweithiwr!

Mae Daniel Regan a Daniel Fegan, Swyddogion Technegol o fewn y Tîm Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS), wedi cwblhau eu Cymhwyster Tystysgrif Uwch mewn Arolygu Safleoedd Bwyd yn ddiweddar.

Delwedd o Daniel Regan a Daniel Fegan gyda Christina Hill, Rheolwr Gweithredol SRSYn wreiddiol, ymunodd y ddau â Thîm SRS i gefnogi trefniadau Profi Olrhain a Diogelu a gorfodi COVID, ac yna aeth ymlaen i gael rolau yn llwyddiannus o fewn y tîm Diogelwch Bwyd.

O'r fan hon, cynigiwyd cyfle iddynt astudio tuag at y cymhwyster, fel rhan o ymrwymiad y SRS i ddatblygu staff.

Roedd y cymhwyster yn cynnwys dwy flynedd o astudio, ac mae gan y ddau bellach offer i archwilio amrywiaeth o safleoedd bwyd.

Dywedodd Christina Hill, Rheolwr Gweithredol SRS: “Rwy'n hynod falch o gyflawniadau Daniel a Daniel.

 “Mae'r ddau ohonyn nhw'n gaffaeliad i'r gwasanaeth bwyd.

“Mae eu llwyddiant hefyd yn dangos ymdrechion a chyflawniadau'r tîm cyfan, gan eu bod yn cynnig hyfforddiant ac arweiniad i'n swyddogion sydd newydd gymhwyso.

“Da iawn y ddau!”

Yn cael ei lywodraethu gan Gyd-bwyllgor, mae SRS yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Caerdydd. Mae'r bartneriaeth yn gweithio i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon, cost-effeithiol drwy wella sectorau fel Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd.

Gall staff gael rhagor o wybodaeth am SRS ar wefan y Cyngor.

Mae mwy o wybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael ar iDev.