Yr Wythnos Gyda Rob
10 Mai 2024
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r wythnos hon lle gadewais wythnos diwethaf gan ddiolch yn fawr i'r holl staff a gefnogodd yr etholiad wythnos diwethaf, ar y diwrnod pleidleisio ar ddydd Iau a’r cyfrif ddydd Gwener.
Aeth y ddau ddiwrnod yn llyfn iawn. Derbyniwyd dros 22,000 o bleidleisiau ar draws y Fro a diolch i'r system newydd a roddwyd ar waith gan ein tîm Gwasanaethau Etholiadol, cafodd y rhain eu dilysu a'u cyfrif yn gynt nag erioed. Ar ôl bod yn rhan o rai cyfrifon hirfaith fy hun yn y gorffennol, rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran yr holl staff trwy ddweud ei fod wedi bod yn bleser gweithio gyda’r system newydd.

Er eu bod yn cael eu harwain gan y Gwasanaethau Etholiadol - a diolch o galon i Rachel, Linda, Hayley, Caitlin, Chelsie a Cameron - mae etholiadau yn ymdrech tîm go iawn yn y Fro. Mae ein tîm prosiect yn cyfarfod am fisoedd cyn y diwrnod pleidleisio i wneud trefniadau manwl. Cyflwynodd cannoedd o gydweithwyr eu hunain i weithio yn ein gorsafoedd pleidleisio ac yna yn y cyfrif. Rydym yn dibynnu ar gefnogaeth rownd y cloc gan Wasanaethau TGCh, Gwasanaethau Adeiladau a'n tîm Cyfathrebu. Hefyd, mae nifer gynyddol o gyn-staff a gwirfoddolwyr o'r gymuned yn cyflwyno’u hunain ar gyfer y gwaith.
Mae yna dîm craidd sy'n gweithio i ni ym mhob etholiad. Gormod o lawer i sôn am bawb yma ond hoffwn ddiolch yn arbennig i Mike Bumford a Tom Bowring sy'n chwarae rhan hanfodol yn cynllunio, yn cydlynu cyfansymiau’r cyfrifon, ac yn achos Mike, yn cau'r cyfrifon wedi hynny hefyd, Victoria Davidson, a chwaraeodd rôl y Dirprwy Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer yr etholiad hwn a Vicci Rowlands sy'n gwneud gwaith rhagorol yn rheoli'r gwaith yn yr ystafell gefn yn lleoliad y cyfrif. Diolch yn fawr, bawb.
Dysgais eleni hefyd fod gennym dîm gŵr a gwraig yn un o'n gorsafoedd pleidleisio a gyfarfu gyntaf ar ddyletswyddau etholiad ugain mlynedd yn ôl ac sydd wedi bod gyda'i gilydd byth ers hynny. Mae hynny'n lefel hollol newydd o ymrwymiad Tîm y Fro. Dathliad hapus (o fath) i chi'ch dau. Llongyfarchiadau.
On the same day as the election last week the new Cabinet Secretary for Education Lynne Neagle MS joined the Leader, Lis Burnett, and colleagues from our Learning and Skills team in a visit to Ysgol Gymraeg Gwaun Y Nant in Barry.
Ar yr un diwrnod â'r etholiad yr wythnos diwethaf, ymunodd Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AoS, â'r Arweinydd, Lis Burnett, a chydweithwyr o'n tîm Dysgu a Sgiliau ar ymweliad ag Ysgol Gymraeg Gwaun Y Nant yn y Barri.
Roedd y Gweinidog yn ymweld i weld y ganolfan adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol arbenigol a sefydlwyd yn yr ysgol gan ddefnyddio grant gan Lywodraeth Cymru yn 2022 ac sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r ddarpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn y Fro.
Nododd Rhydian Lloyd, Pennaeth Gwaun Y Nant, yn ystod yr ymweliad, y cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cyflwyno ADY, yn enwedig y rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio, gorbryder a rheoleiddio sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae gwella'r ddarpariaeth ar gyfer rhai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel awdurdod lleol ond mae clywed gan y rhai sy'n darparu'r cymorth am yr effaith y mae wedi ei chael yn pwysleisio pwysigrwydd hyn.
Mae'r tîm yng Ngwaun y Nant yn gwneud gwaith ardderchog. Mae gweld ein gwaith yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol bob amser yn braf ond mae hyn yn sicr yn un lle mae cydnabod y disgyblion hynny a'u teuluoedd wir yn dangos gwerth y gwaith hwn. Diolch yn fawr iawn i Rhydian a phawb yn Gwaun y Nant.
Dros y deuddeg mis diwethaf, mae ein gwaith yn y maes hwn, yn ogystal â llawer o rai eraill, wedi cael ei arwain gan Liz Jones, ein Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles ar hyn o bryd. Rwy'n dweud ar hyn o bryd oherwydd yn y cyntaf o ddau ddiweddariad ar benodiadau’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol yr wythnos hon, rwy'n falch iawn o allu rhannu y bydd Liz yn cymryd yr awenau cyn bo hir fel Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau. Yn ei chyfweliadau gyda mi a'r panel aelodau etholedig, gwnaeth Liz argraff dda iawn gyda’i gweledigaeth am ffordd o weithio wedi'i harwain gan bwrpas moesol cryf a ffocws ar y rhai sydd angen ein cefnogaeth fwyaf. Rwy'n gwybod y bydd Liz eisiau cyflwyno ei hun a'i gweledigaeth i'r holl gydweithwyr unwaith y bydd yn dechrau yn ei rôl newydd ddechrau mis Gorffennaf.

Nos Fercher cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor. Pleidleisiwyd y Cynghorydd Elliot Penn yn Faer Bro Morgannwg ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024/25 ac etholwyd y Cynghorydd Naomi Marshallsea yn Ddirprwy Faer.
Gyda’i gilydd, byddant yn llywyddu prif gyfarfodydd y Cyngor ac yn ymgymryd â rolau seremonïol amrywiol ar ran y Fro. Bydd y ddau hefyd yn parhau i godi arian ar gyfer Sefydliad y Maer.
Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol oedd cyfarfod ffurfiol olaf Debbie Marles gyda'r Fro. Fel Swyddog Monitro, mae Debbie wedi fy nghefnogi i a Maer y Fro i gynnal cyfarfodydd y Cyngor Llawn ac wedi goruchwylio prosesau democrataidd yr awdurdod am y naw mlynedd diwethaf. Fe wnes i dalu teyrnged i Debbie ar y noson a hoffwn ategu fy niolch i Debbie am ei 33 mlynedd o wasanaeth i'r Cyngor a thrwy ddymuno'n dda iddi yn ei gyrfa gyda Chyngor Caerdydd yn y dyfodol.

Sy'n fy arwain at ail ddiweddariad y Tîm Arweinyddiaeth Strategol; y bydd Victoria Davidson, ein Rheolwr Gweithredol presennol ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol, yn olynu Debbie fel Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddog Monitro ganol mis Mehefin. Drwy gydol y broses ddethol, dangosodd Vicky ei dealltwriaeth fanwl o gyfansoddiad y Cyngor, y fframweithiau cyfreithiol yr ydym yn gweithredu ynddynt, y datblygiadau deddfwriaethol fydd yn llunio ein dyfodol, ac enw da yn cefnogi cydweithwyr a phrosiectau ar draws y sefydliad i lwyddo. Llongyfarchiadau i Vicky ar ei phenodiad. Rwy'n gwybod y bydd hi'n arweinydd gwych ac yn aelod allweddol o TAS ar gyfer gwasanaeth hanfodol bwysig.
Yn olaf yr wythnos hon, hoffwn ddiolch i bawb y tu ôl i Ymgyrch Elstree a lansiwyd ar gyfer 2024 heddiw.

Wedi'i gynllunio i ddod â'r holl asiantaethau lleol sy'n gweithio i gadw'r Fro yn ddiogel at ei gilydd yr haf hwn, dyma un o'n henghreifftiau gorau o weithio mewn partneriaeth. Roedd ymgyrch 2023 yn llwyddiant mawr ac unwaith eto, bydd ein timau Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Gorfodi, Twristiaeth a Gwasanaethau Cymdogaeth yn gweithio o dan ymbarél y Bartneriaeth Bro Ddiogelach gyda Heddlu De Cymru, yr RNLI, Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ystafell Reoli Teledu Cylch Cyfyng CDL, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Caerdydd, i gadw pobl yn ddiogel ar ein traethau, yn ein parciau gwledig a’n canolfannau ymwelwyr yr haf hwn.
Mae'n ymdrech ar draws y tymor, fydd yn galluogi degau o filoedd o ymwelwyr i fwynhau heulwen yr haf. O edrych ar ragolygon y penwythnos hwn, mae’n cael ei lansio ar yr amser perffaith!
Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r heulwen hir-ddisgwyliedig yr wythnos hon. Diolch yn fawr iawn.
Rob.