Microsoft Teams Phones - Diweddariad

Mae'n bleser gennym eich hysbysu bod trosglwyddiad  terfynol i ffonau Microsoft Teams wedi digwydd yn llwyddiannus ar 09 Mai, sy'n golygu ein bod bellach wedi symud draw yr holl rifau ffôn a chiwiau galw yn y sefydliad i Microsoft Teams Phone.

Fel defnyddiwr ffôn Microsoft Teams dylech nawr weld tab pad deialu ar eich rhaglen Teams, sy’n eich galluogi i wneud galwadau allanol a gwrando ar eich negeseuon llais.

Pan ddaw galwad i mewn, byddwch yn derbyn rhybudd, yn union fel y byddech am negeseuon gwib. Dewiswch y rhybudd i ateb yr alwad - mae mor hawdd â hynny!

I wneud galwad ffôn, naill ai:

  • Ewch i'r tab galwadau, a ffoniwch gyswllt neu defnyddiwch y pad deialu i wneud galwad
  • Dechreuwch sgwrs, ac yna pwyswch y botwm ffôn i'w droi'n alwad

Rydym wedi cefnogi llawer o ddefnyddwyr yn ystod y trosglwyddiad ac wedi casglu eich adborth a'ch cwestiynau ar ffurf Cwestiynau Cyffredin:

A fydd fy nargyfeiriad galwadau yn dal i weithio?

Sylwch na fydd unrhyw ddargyfeiriadau rhifau ffôn o'r hen system ffôn Cisco yn gweithio mwyach.

Does dim angen dargyfeirio eich rhif i ffôn symudol gwaith - gallwch nawr godi unrhyw alwadau ar ffôn symudol drwy ap Teams.

Sut galla i wneud a derbyn galwadau ar ddyfeisiau lluosog?

Mae'n hawdd sefydlu galwr eilaidd. Dewiswch eich llun proffil Teams ac yna 'gosodiadau'. Nesaf, dewiswch 'Dyfeisiau' a dod o hyd i 'Galwr Eilaidd' yn yr opsiynau. Cliciwch ar y saeth cwymplen yna dewiswch 'Speakers' i adael i’r alwad ganu ar eich clustffonau a'ch seinyddion cyfrifiadurol.

Sut ydw i'n sefydlu grŵp galwadau neu giw galwadau?

Os oes angen i chi allu codi galwadau fel rhan o grŵp, gallwch naill ai sefydlu grŵp galwadau eich hun neu os ydych chi am ychwanegu negeseuon ac opsiynau galwr, codwch Docyn Halo i osod ciw galwadau.

Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin llawn ar staffnet: 

Cwestiynau Cyffredin Microsoft Teams Phone

Fel gydag unrhyw brosiect mawr, efallai na fyddwn bob amser yn cael popeth yn iawn y tro cyntaf.

Nid yw'r cymorth yn dod i ben nawr bod y broses gyflwyno wedi'i chwblhau - os oes gennych gwestiynau, ewch i staffnet i gael mynediad at ddeunyddiau hyfforddi a dysgu mwy am nodweddion newydd Microsoft Teams Phone.