
Annwyl Gydweithwyr,
Fel rhan o brosiect ehangach sy'n edrych ar ein lle swyddfa, rydym yn gwneud mân waith gwella yn y Swyddfeydd Dinesig. Bydd hyn yn digwydd rhwng 18 Mawrth a 2 Ebrill yn barod i gydweithwyr o dîm Cyswllt Un Fro, Tîm Derbyn ac Asesu Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Dydd BIP Caerdydd a'r Fro i adleoli o gefn adeilad y ganolfan hamdden i ail lawr y Swyddfeydd Dinesig. Bwriedir i'r symud hwn ddigwydd ar ôl gŵyl banc y Pasg.
Dylai cydweithwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y gwaith neu'r symud fod wedi eu llywio gan dîm prosiect Eich Lle neu eu rheolwr llinell.
Dyma gam diweddaraf y prosiect Eich Lle sydd wedi gweld cydweithwyr o Wasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, Eiddo ac Adnoddau Dynol yn symud o fewn y Swyddfeydd Dinesig.
Yn dilyn adleoli cydweithwyr o'r ganolfan gyswllt i'r Swyddfeydd Dinesig, bydd tîm y prosiect yn troi eu sylw at gam nesaf y symudiadau posibl. Mae hyn yn golygu ystyried y defnydd o Swyddfeydd y Dociau yn y dyfodol fel deorydd busnes a chymunedol, sy'n rhan o gais y Cyngor i Lywodraeth y DU fel rhan o'r cynllun Ffyniant Bro. Os caiff y cyllid ei gymeradwyo, bydd cynigion i adleoli gwasanaethau yn Swyddfa'r Dociau ar hyn o bryd yn cael eu datblygu. Bydd timau a fyddai'n cael eu heffeithio gan yr adleoli hyn yn ymgysylltu â nhw i sicrhau bod yr holl ofynion yn cael eu deall a bod cynlluniau'n cael eu datblygu ar y cyd.
Ar ôl cytuno ar gyllideb yn ddiweddar gyda rhaglen arbedion o £7.8 miliwn, bydd Eich Lle yn un o'r prosiectau sy'n ein helpu i gyrraedd ein targed cynilo. Trwy adolygu ein swyddfeydd a gwagio mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn bellach, neu sy'n arbennig o gostus i'w rhedeg, gallwn sicrhau ein bod mor effeithlon â phosibl fel sefydliad gan leihau costau a'n hôl troed carbon.
Byddaf yn rhoi diweddariad rheolaidd ac yn ysgrifennu atoch eto gydag unrhyw ddiweddariadau neu ddatblygiadau pellach wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Ian Tomkinson neu Dawn Rees yn y tîm prosiect Eich Lle.
Cofion gorau,
Lorna Cross
Rheolwr Gweithredol - Eiddo