Staffnet+ >
Yn galw holl Reolwyr Adrannol Cyngor y Fro – QuickStart
Yn galw holl Reolwyr Adrannol Cyngor y Fro – QuickStart
Mae CELT+ a Cymunedau am Waith a Mwy yn bwriadu cynnal eu trydydd cynllun Quickstart y gwanwyn hwn!
Bydd y fenter yn darparu hyd at bum lleoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc 18-24 oed, wedi'u lleoli ym Mro Morgannwg. Y nod yw darparu sgiliau cyflogaeth hanfodol i bobl ifanc i wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.
Allech chi:
-
Gynnig cyfle i berson ifanc 18-24 oed sy’n byw yn y Fro weithio yn eich adran chi yn y Cyngor. (Noder, mae’n rhaid i'r swydd fod yn swydd newydd ac ni ddylai ddisodli swyddi gwag presennol neu wedi eu cynllunio; a/neu achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith na lleihau eu horiau gwaith).
-
Cyflogi am chwe mis (wedi ei ariannu i ddechrau drwy QuickStart am y 6 mis cyntaf) cyn cynnig cyflogaeth fwy cynaliadwy i'r ymgeisydd QuickStart ar ôl cwblhau lleoliad yn llwyddiannus (os yw'r ymgeisydd cyflogedig yn bodloni gofynion prawf yr adran)
Os GALLECH, byddai'r cyllid ar gael i:
-
Ariannu lleoliad chwe mis, 25 awr yr wythnos yn llawn, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y cyfnod o 6 mis
-
Darparu hyd at £500 fesul ymgeisydd ar gyfer hyfforddiant/adnoddau
-
Cynnig hyfforddiant Sgiliau Cyflogadwyedd Cyn-gyflogaeth i ddarpar ymgeiswyr drwy raglen CELT+ Chymunedau am Waith Uwch mewn partneriaeth â Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Mae gan gynllun QuickStart raddfeydd amser i'w hystyried:
-
Mae mynegi diddordeb yn agor ddydd Llun 25 Mawrth ac yn cau ar 12 Ebrill 2024
-
Mae pum swydd wag yn cael eu hysbysebu o ddydd Llun 15 Ebrill 2024
-
Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb gyflwyno eu diddordeb mewn swydd wag i gael ei ystyried gan Gydlynydd Quickstart (yn y lle cyntaf) erbyn dydd Gwener 3 Mai 2024 fan bellaf
-
Gweithdai cyn-gyflogaeth (Sgiliau CV / Cyfweld) i'w cynnig i ddarpar ymgeiswyr yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 13 Mai 2024
-
Cyfweliadau i gael eu pennu gan adrannau unigol ar ôl derbyn CVs, yr wythnos sy’n dechrau 20 Mai 2024
Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y datganiad o ddiddordeb isod er mwyn ystyried y swydd wag. Ar ôl derbyn y datganiad o ddiddordeb, bydd y Cydlynydd QuickStart mewn cysylltiad i gadarnhau'r lleoliad a rhoi mwy o fanylion a thelerau ac amodau.
Y datganiad o ddiddordeb