Cyrsiau Cymraeg Bloc yr Haf
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyffrous i gyhoeddi ein Cyrsiau Cymraeg Bloc Haf, gan ddarparu cyfle gwych i staff wella eu sgiliau iaith Gymraeg.
Gallwch gwblhau'r cwrs Mynediad cyfan (1+2) mewn dim ond chwe wythnos neu ddewis gorffen rhan 1 neu ran 2 mewn tair wythnos.
Rydym yn annog yr holl staff yn gryf i ddysgu Cymraeg oherwydd ei manteision niferus i chi, ein sefydliad, ein cwsmeriaid, a'r gymuned. Mae'r rhaglen Cymraeg Gwaith nid yn unig ar gyfer dysgwyr ond hefyd ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd am wella eu sgiliau a magu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy yn y gweithle.
Rydym yn falch o fod wedi penodi Sarian Thomas-Jones fel ein Cydlynydd Cymraeg Gwaith. Mae Sarian yn ymroddedig i ddatblygu sgiliau Cymraeg ymhlith ein staff a darparu cyrsiau Cymraeg cynhwysfawr.
Mae'r cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cynnal yn ystod oriau gwaith, felly ni fydd yn rhaid i chi ddefnyddio eich absenoldeb na'ch amser personol i fynychu. Fodd bynnag, sicrhewch fod gennych gymeradwyaeth eich rheolwr cyn cofrestru.
Ymunwch â ni i wneud Bro Morgannwg yn weithle a chymuned ddwyieithog
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth