Staffnet+ >
Bydd y ffordd rydych yn cyflwyno taflenni amser yn newid yn fuan
Bydd y ffordd rydych yn cyflwyno taflenni amser yn newid yn fuan
Gyda lansiad Oracle Fusion, mae gennym swyddogaeth newydd sy'n caniatáu i staff y cyngor gyflwyno taflenni amser – gelwir hyn bellach yn Gardiau Amser yn Fusion.

Gallwch gyrchu’r swyddogaeth cerdyn amser o ddyfais gorfforaethol (e.e. gliniadur gwaith neu ffôn), trwy ddyfeisiau personol trwy Staffnet+, neu drwy'r ap symudol.
Yn dod i rym ar 5Chwefror 2024, bydd yn rhaid cyflwyno pob cerdyn amser ar gyfer y rhan fwyaf o'r Gwasanaethau Cymdeithasol trwy Fusion, ni dderbynnir unrhyw daflenni papur o 4 Chwefror 2024.
Bydd cardiau amser ar gyfer Gwasanaethau Adnoddau Cymunedol y Fro (GACF) a chartrefi gofal (heblaw Tŷ Dewi) yn mynd yn fyw ar 4Mawrth 2024, ni dderbynnir copïau papur o 3 Mawrth 2024.
Gallwch gael mynediad i'r hyfforddiant perthnasol drwy'r dolenni canlynol:
Cardiau Amser Hunanwasanaeth Gweithwyr:
Cofnodi Gwall Cod BH:
Rheolwr yn Cymeradwyo Cardiau Amser:
Rheolwr yn Mewnosod Cardiau Amser:
I Reolwyr: Cofiwch wirio nad yw cardiau amser a gyflwynir yn Fusion wedi cael eu talu o'r blaen gan ddefnyddio'r broses bapur, ni fydd Fusion yn gwirio a yw’r taliadau hyn wedi cael eu gwneud o'r blaen.
Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyb Oracle Fusion ar Staffnet+ neu cysylltwch â’ch Hyrwyddwr Fusion.