Staffnet+ >
Maer Ffair Wirfoddoli Fawr flynyddol yn dychwelyd ir Fro ym mis Ionawr
Mae'r Ffair Wirfoddoli Fawr flynyddol yn dychwelyd i'r Fro ym mis Ionawr
Bob blwyddyn, mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yn ymuno â sefydliadau cymunedol ac elusennau i rannu gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli yn y Fro yn y Ffair Wirfoddoli Fawr.
Cynhelir y ffair eleni ar 24 Ionawr 2023, 10am – 2pm yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo, Y Barri.
Mae'r Cyngor yn cydnabod effaith amhrisiadwy gwirfoddoli mewn cymunedau ledled y Fro, a'r manteision lles a datblygiadol y mae'n eu cynnig i'r rhai sy'n rhoi o’u hamser. Gwelodd 2023 lansio Cynllun Gwirfoddolwyr y sefydliad.
Gall gweithwyr y Cyngor bellach ymrwymo un diwrnod calendr y flwyddyn (pro-rata ar gyfer staff rhan amser) i wirfoddoli dros achos o'u dewis, ar yr amod ei fod yn cyfrannu at ein cymunedau lleol.
Os oes gennych amser i'w gynnig, neu os hoffech archwilio opsiynau ar gyfer eich diwrnod gwirfoddoli, bydd dros 40 o sefydliadau wrth law yn y Ffair Wirfoddoli Fawr i helpu i ddod o hyd i'r cyfle gwirfoddoli iawn i chi.
Os na allwch fynychu'r digwyddiad ond eich bod yn awyddus i ddarganfod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli yn y Fro, cysylltwch â GGM.
Ar ôl trafod gyda'ch rheolwr, gellir gofyn am ddiwrnodau gwirfoddoli drwy Oracle.