Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 12 Ionawr 2024
Yr Wythnos Gyda Rob
12 Ionawr 2024
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod wedi gallu mwynhau'r tywydd braf - er yn eithaf oer - rydyn ni wedi'i gael yr wythnos hon.
Roeddwn i eisiau dechrau'r neges hon trwy roi diweddariad pwysig ar ein proses o osod cyllideb.
Fel y gwyddoch, mae hwn yn bwnc y mae'r Arweinydd a minnau wedi cyfathrebu'n rheolaidd arno dros yr ychydig fisoedd diwethaf gan ein bod yn teimlo ei bod yn bwysig bod staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau a chynnydd.
Daeth ein neges olaf ychydig cyn y Nadolig pan ddysgon ni beth fyddai ein setliad ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r ffigur hwnnw o ychydig o dan £209 miliwn yn cynrychioli toriad sylweddol mewn cyllid mewn termau real pan gaiff ei roi yng nghyd-destun costau cynyddol - ar ffurf cynnydd mewn prisiau ynni, cyfraddau llog a chwyddiant - a'r galw cynyddol am rai o'n gwasanaethau mwyaf hanfodol.
Mae'n gadael y Cyngor gyda diffyg cyllideb sylweddol.
Yn amlwg, mae hynny'n her fawr i ni i gyd gan fod angen gwneud penderfyniadau anodd.
Ond doedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddim yn annisgwyl ac mae'n cyd-fynd â'r modelu ariannol rydyn ni wedi bod yn ei ddefnyddio.
Mae Matt Bowmer, Gemma Jones a'r tîm Cyfrifeg wedi gwneud llawer o waith caled dros y misoedd diwethaf i oresgyn y rhwystr ariannol hwn, a bydd yr ymdrech honno'n parhau wrth i ni symud tuag at gyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mawrth pan fydd y gyllideb derfynol yn cael ei gosod.
Bydd y Cabinet yn y cam nesaf o’r broses yn ystyried cynigion ar gyfer £7.8 miliwn mewn cynigion arbed a chynhyrchu incwm ochr yn ochr â chynnydd yn y Dreth Gyngor o 6.7% ddydd Iau, mesurau sydd wedi'u cynllunio i fantoli'r llyfrau.
Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i'r ffordd y mae rhai gwasanaethau'n cael eu darparu a chyflwyno ffioedd i eraill, ond hefyd ffyrdd newydd ac arloesol o greu refeniw.
Mae gan y Cyngor hwn hanes rhagorol o gyflwyno modelau busnes blaengar a chreadigol trwy ei agenda ail-lunio, a bydd y dull hwnnw'n dod yn bwysicach fyth yn y dyfodol.
Mae cynigion yn yr adroddiad sy'n mynd i'r Cabinet yn cynnwys rhentu gofod busnes yn Swyddfa'r Dociau fel rhan o waith adfywio parhaus sy'n gysylltiedig â chynlluniau ar gyfer Marina’r Barri.
Syniad arall yw cyflwyno mwy o gonsesiynau manwerthu bach i leoliadau ledled y Fro.
Bydd mwy o grwpiau chwaraeon a chymunedol yn cael y cyfle i ennill mwy o annibyniaeth drwy gymryd rheolaeth o'u cyfleusterau drwy drefniadau trosglwyddo asedau, trefniadau sydd eisoes wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith clybiau bowlio a sefydliadau eraill.
Rhaid i ni barhau i gofleidio cysyniadau busnes cyffrous fel hyn wrth i ni anelu at ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn fwy effeithiol a byddwn yn gofyn am help gan bob cydweithiwr i gyflawni hyn.
Rwy'n gwybod o brofiad yn union faint y gall y grŵp hwn o staff ei gyflawni mewn amgylchiadau heriol ac nid oes amheuaeth gennyf y byddwn yn ymateb i'r her.
Ar ôl i'r adroddiad gael ei adolygu gan y Cabinet, bydd yn mynd gerbron pwyllgorau craffu ac yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei lansio ar 18 Ionawr a bydd yn para am bedair wythnos.
Er fy mod i'n hyderus bod yna le i fod yn optimistaidd wrth i ni geisio goresgyn y rhwystrau presennol a dod â'r flwyddyn i ben mewn sefyllfa gryfach, rwy'n deall yn iawn y gall y staff fod yn bryderus neu'n poeni achos y newidiadau sy'n digwydd.
Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â'u rheolwr a chael sgwrs agored a gonest.
Rhan o'r hyn sy'n rhoi optimistiaeth i mi ar gyfer y dyfodol yw llwyddiant ein sefydliad dro ar ôl tro wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi ein cymunedau. Rwy'n falch iawn o allu rhannu'r gydnabyddiaeth ddiweddaraf o hyn gyda'r newyddion bod Prosiect Bwyd Llanilltud, sy'n anelu at sicrhau bod prydau iach fforddiadwy ar gael i bawb yn Llanilltud Fawr, wedi ennill Gwobr Ystadau Cymru 2023.
Mae'r prosiect yn enghraifft wych o gydweithio. Fe'i darparwyd gan amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y Cyngor, Bwyd y Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS), Cyngor Tref Llanilltud Fawr, Age Connects, Banc Bwyd y Fro, FareShare Cymru, Cymdeithas Tai Newydd, Tai Hafod a Chyngor ar Bopeth.
Rhoddwyd y wobr am ddefnydd y prosiect o Ganolfan Gymunedol CF61 yn Llanilltud i sefydlu'r Ganolfan Mwy na Bwyd misol lle gall preswylwyr gael help nid yn unig ynghylch bwyd ond hefyd ar dai, cyllid personol, iechyd a lles, cyflogaeth, gofal plant a mwy. Mae'r ganolfan yn rhedeg ochr yn ochr â FoodShare Pantry GVS, Banc Dillad Sain Tathan a Chatty Café Llanilltud Fawr, gan greu man cyfeillgar a diogel i'r gymuned ddod ynghyd o dan yr un to.

Mae'n enghraifft wych o ddylunio gwasanaethau gyda'r gymuned er mwyn diwallu eu hanghenion a bydd yn ymestyn yn fuan i Sain Tathan wrth i'r prosiect barhau i fynd o nerth i nerth. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y llwyddiant.
Mae gwobrau fel hyn yn gydnabyddiaeth wych o effaith gwaith y Cyngor. Yr hyn sy'n aml yn fwy pwerus yw adborth gan y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Yr wythnos hon, rwyf wedi cael adolygiad hollol dwymgalon o'n tîm atgyfeirio ymarfer corff ac yn arbennig gwaith Craig Nichol, un o Weithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Ymarfer y tîm.
Mae'r tîm yn helpu'r unigolion hynny a atgyfeirir gan eu meddyg teulu i fyw bywydau mwy iach ac egnïol trwy ymarfer corff yn rheolaidd. Ysgrifennodd un o'r rhai a gynorthwyir gan Craig i ddiolch iddo a'r tîm am eu gwaith, gan ddweud: Ar y dechrau roeddwn yn bryderus iawn am gamu i mewn i gampfa ac yn nerfus i ddechrau ymarfer gan nad oeddwn am waethygu fy mhroblemau ond fe wnaethoch chi gymryd yr amser i wrando ar fy mhryderon a dyfeisio rhaglen a fyddai'n fy helpu.... Rwyf wedi elwa'n fawr o'r cynllun ac rwy'n gweld gwelliannau enfawr yn fy iechyd corfforol a lles meddyliol... Rwy'n credu bod yr NERS yn anhygoel ac yn ased enfawr... Credaf fod llwyddiant y cynllun ym Mhenarth yn dibynnu ar eich gwaith caled, eich ymroddiad a'ch tosturi tuag at bob un o'ch cleientiaid ac ni allaf ddiolch digon i chi am bopeth rydych wedi'i wneud i mi yn bersonol. Hir oes i'r cynllun barhau!
Diolch yn fawr iawn i Craig a gweddill y tîm am eich gwaith sydd yn amlwg wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y preswylydd hwn. Gwaith da!

Hoffwn hefyd longyfarch un o'n cydweithwyr sydd newydd basio carreg filltir waith fawr. Mae Shirley Curnick yn ein tîm Big Fresh Catering wedi cwblhau ei phedwar deg a phumed flwyddyn o wasanaeth mewn llywodraeth leol yn ddiweddar.
Yn ystod ei gyrfa mae Shirley wedi gweithio i Gyngor Sir De Morgannwg, Cyngor Bro Morgannwg, a bellach Big Fresh Catering Limited. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gweithio fel Cynorthwyydd Cegin a Chogydd Arweiniol ac mae wedi bywiogi diwrnod miloedd ar filoedd o ddisgyblion dros y blynyddoedd, heb sôn am ei chydweithwyr yn y ceginau.
Ar hyn o bryd mae Shirley yn gweithio yn ysgol Palmerston ac rwy'n gwybod bod yr holl staff yno yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr, gan gynnwys y Pennaeth, Sarah Cason, a'r Llywodraethwyr sydd hefyd wedi ei llongyfarch ar y llwyddiant.
Ar ran pawb yn Nhîm y Fro hoffwn ddiolch i Shirley am bopeth rydych chi wedi'i roi i gefnogi ein gwasanaethau dros y pedwar degawd diwethaf. Rwy'n siŵr bod gennych fwy nag ychydig o straeon i'w hadrodd! Diolch yn fawr iawn.
Yn gynharach yr wythnos hon, cysylltodd Demie Haywood, prentis Swyddog Cymorth Trwyddedu â mi o fewn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Esboniodd Demie fod ei phrentisiaeth gyda'r tîm wedi bod yn anhygoel a phasiodd ei lefel 3 Gweinyddu Busnes ddydd Mercher – llongyfarchiadau Demie!
Daw ei phrentisiaeth i ben yr wythnos hon, a chysylltodd hi i ddiolch i'r cydweithwyr yn y tîm am y gefnogaeth y maent wedi'i chynnig iddi yn ystod ei hamser gyda'r Fro.
Dywedodd Demie "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb yn yr adran drwyddedu yma gyda’r GRhR. Maen nhw wedi fy helpu drwy fy mhrentisiaeth ac wedi rhoi llawer o gefnogaeth a help. Diolch iddynt am fy nghymhwyster oherwydd hebddynt nhw yn rhoi'r gefnogaeth i mi, a chymryd yr amser i ddysgu i mi ni fyddwn wedi gallu cymhwyso fy hun cystal ag yr wyf wedi'i wneud. Maent wedi helpu i roi hwb i'r hyn rwy'n gobeithio y bydd yn yrfa lwyddiannus iawn. Er ein bod yn gweld llawer o doriadau yn y gyllideb, ac mae ochr i weithio yn y sector cyhoeddus sy'n wahanol i swyddi eraill rwyf wedi'u cael, nid yw hyn wedi bod yn tynnu o’r apêl. Mae wedi bod yn bleser gen i wasanaethu ochr yn ochr â'r grŵp gorau o unigolion sy'n ymdrechu mor galed i brofiad y cwsmeriaid fod yn un da. Maen nhw'n mynd y tu hwnt i’w dyletswydd bob amser ac maen nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth wrth weithio yn y swyddfa flaen honno. Rwyf bellach yn symud ymlaen i rôl arall, a byddaf yn cymryd gyda mi eu hangerdd, eu cryfder a'u cymhelliant i wneud yn iawn bob amser, a chael y gorau o'r sefyllfa bob amser. Diolch yn fawr! '
Diolch Demie am gysylltu ac mae hynny'n wir yn gymeradwyaeth gogoneddus ac rwy'n siŵr y bydd pawb sydd wedi eich cefnogi yn hynod falch o ddarllen eich sylwadau.

Yn olaf, roeddwn i eisiau achub ar y cyfle eto i'ch atgoffa chi i gyd o'r caffi Dysgu sydd bellach ar waith yn llawn a gyda rhaglen lawn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae wir ar gyfer pawb yn y sefydliad sydd eisiau dysgu a datblygu, rhannu heriau, arfer da a syniadau. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn ar staffnet a staffnet+. Es i i sesiwn yr wythnos hon ar bŵer y gymuned ac roedd yn wych trafod a rhannu syniadau gyda chydweithwyr ynghylch sut y gallwn weithio ac ymgysylltu'n well â grwpiau cymunedol, sefydliadau a phartneriaid eraill ledled y Fro. Hoffwn ddiolch i Natalie Jones, Cynorthwy-ydd Datblygu Sefydliadol a Dysgu am y gwaith rhagorol y mae wedi'i wneud i dynnu'r fenter at ei gilydd a'r rhaglen sy'n cael ei rhoi ar waith. Da iawn Natalie – Gwaith da!
A diolch fel bob amser i bawb am eu hymdrechion yr wythnos hon. Gobeithio y cewch chi benwythnos braf a hwyliog.
Rob.