Staffnet+ >
Cyngor i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024
Cyngor i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024
Mae Arweinydd y Cyngor unwaith eto yn dod â menywod o bob rhan o'r sefydliad ynghyd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Ar 08 Mawrth 2024, bydd y Cynghorydd Lis Burnett yn cynnal trafodaeth banel gyda chydweithwyr yn ogystal â sesiwn gweithdy i nodi ffyrdd o ysbrydoli cynhwysiant yn y Cyngor.
Cynhelir y digwyddiad yn Ystafell Cosmeston yn y Swyddfeydd Dinesig a gallwch gofrestru diddordeb mewn mynychu nawr.
Cofrestrwch yma
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu llwyddiant cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu cydraddoldeb menywod yn gyflymach.
Yn 2024, mae thema'r ymgyrch 'Ysbrydoli Cynhwysiant' yn pwysleisio pwysigrwydd amrywiaeth a grymuso ym mhob agwedd ar gymdeithas.

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i feithrin Bro sy'n amrywiol, yn deg ac yn gynhwysol. Byd lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a'i ddathlu. Yn 2023, cynhaliwyd ein digwyddiad mwyaf erioed i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i gydweithwyr ar bob lefel o'r sefydliad rannu eu profiadau, rhwydweithio ac ysbrydoli ei gilydd. Nod y dathliad eleni yw datblygu hyn.
Darperir cinio ysgafn a lluniaeth, diolch i nawdd gan un o gyflenwyr y Cyngor.