Gwasanaeth Ieuenctid yn Cael Marc Ansawdd Aur Mawreddog

Mae tîm Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi ennill y Marc Ansawdd Aur mawreddog ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, carreg filltir sylweddol sy'n tynnu sylw at eu hymrwymiad i ragoriaeth a'u heffaith ar bobl ifanc ledled Bro Morgannwg.

Gwasanaeth Ieuenctid yn ennill Marc Ansawdd Aur

Mae'r Marc Ansawdd Aur, a ddyfarnwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru, yn gydnabyddiaeth genedlaethol o'r safonau uchaf mewn gwaith ieuenctid.

Ar ôl cyflawni'r lefelau Efydd ac Arian eisoes, mae cyrraedd statws Aur yn adlewyrchu gallu'r tîm i ddarparu gwasanaethau arloesol ac effeithiol tra'n gwella eu harfer yn barhaus.

Mae'r tîm wedi gweithio'n galed i godi'r safonau a gwella ansawdd y ddarpariaeth gwaith ieuenctid.

Estynnodd y Rheolwr Ymgysylltu Ieuenctid Rhys Jones, sy'n arwain y gwasanaeth, ei ddiolchgarwch i bawb a gyfrannodd: “Rwyf am ddiolch i'r holl staff, gwirfoddolwyr, partneriaid, a phobl ifanc a fu'n rhan o'r broses hon dros y tair blynedd diwethaf.

“Mae'r gwasanaeth yn parhau i arddangos yr ymroddiad, yr angerdd a'r ysgogiad sydd gan weithwyr ieuenctid i'r bobl ifanc sy'n byw yn y Fro.

“Fel gwasanaeth, rydym yn parhau i adolygu a datblygu'r hyn sydd gennym i'w gynnig ac yn dyheu am fod yn drawsnewidiol yn ein dull gweithredu.”

 

Canmolodd Martin Dacey, Swyddog Arweiniol Cynhwysiant Cymdeithasol a Lles, ymdrechion y tîm: “Mae hwn yn gyflawniad eithriadol ac mae'n gydnabyddiaeth o'r holl waith rhagorol y mae Rhys a'r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei wneud gyda'n pobl ifanc.

“Rydym mor falch o'u cyflawniadau. Diolch Yn Fawr i'n holl staff anhygoel!”

Mae gweithwyr ieuenctid yn y Fro yn darparu ystod amrywiol o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i rymuso pobl ifanc 11—25 oed i gyrraedd eu potensial - o redeg clybiau ieuenctid a gweithgareddau ar ôl ysgol i gyflwyno cyrsiau achrededig a chynnal digwyddiadau cymunedol.

Mae cyflawni'r Marc Ansawdd Aur yn brawf o waith caled ac ymroddiad y tîm.

Llongyfarchiadau i dîm Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, y mae ei ymroddiad, creadigrwydd ac angerdd wedi gosod meincnod ar gyfer rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid.

Darllenwch fwy am y Marc An sawdd yma.