Glendid Ceir Pwll
27 Awst 2024
Bu nifer cynyddol o gwynion ynghylch cyflwr ceir pwll pan ddychwelwyd ar ôl eu defnyddio yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys sbwriel a gwastraff bwyd sy'n cael eu gadael mewn ceir, staeniau ar seddi, tynnu gorchuddion o'r cerbydau, a phacedi sigaréts a vapes yn cael eu gadael mewn cerbydau.
Bu achosion lle nad yw difrod i gerbydau yn cael eu hadrodd.
Hoffem atgoffa'r holl staff sydd wedi cofrestru i ddefnyddio ceir pwll eich bod yn gyfrifol am adael y car yn lân, yn barod ar gyfer y defnyddiwr nesaf, ac adrodd am unrhyw ddifrod i'r cerbyd neu faterion eraill.
Mae'r ceir pwll yno er eich cysur a'ch hwylustod, ac fel adnodd a rennir ar gyfer yr holl staff. Nid yw'n dderbyniol disgwyl i gydweithwyr eraill lanhau ceir wrth eu casglu.
Os ydych yn teimlo'r angen i roi gwybod am lendid gwael neu ddifrod i gerbydau, gwnewch hynny ar unwaith drwy e-bostio poolcaradmin@valeofglamorgan.gov.uk.
Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.