Staffnet+ >
Cyfarfod Amrywiaeth Nesaf: Dydd Mawrth 30 Ebrill
Cyfarfod Amrywiaeth Nesaf: Dydd Mawrth 30 Ebrill
Hoffem eich gwahodd i'n cyfarfod nesaf ddydd Mawrth 30 Ebrill. Byddwn yn cyfarfod rhwng 3pm a 4.30pm yn Ysgol Sant Baruc, Ffordd y Mileniwm, Y Barri, CF62 5AT.
Mae Diverse bob amser yn agored i aelodau newydd, gan gynnwys staff sy'n gweithio yn yr ysgol, a dyna pam rydyn ni’n anelu at gwrdd ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Edrychwn ni ymlaen at gwrdd â chi ar ddydd Mawrth!
Y Newyddion Diweddaraf
Yn ystod ein cyfarfod amrywiaeth diwethaf, buom yn trafod ffyrdd y gallwn helpu ein hysgolion i ddod yn wrth-hiliol drwy ddod yn Llywodraethwyr Cymunedol Ysgol.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Martine Booker-Southard, Cadeirydd y Rhwydwaith Amrywiol, erthygl ar gyfer Cylchlythyr y Gwanwyn Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro ar bwysigrwydd cael amrywiaeth ar ein Byrddau Llywodraethwyr Ysgol.
Mae llawer o rwystrau a allai atal pobl rhag dod yn Llywodraethwr Cymunedol Ysgol; oedran, hil, crefydd, rhywioldeb, anabledd, rhywedd ond "Dylai cyrff llywodraethu gynrychioli'r gymuned maen nhw'n ei gwasanaethu. Os na allwch deimlo cysylltiad â’r gymuned, sut gallwch chi ddeall ac yna gwneud pethau er budd gorau'r myfyrwyr?"
Os hoffech drafod y broses o ddod yn Llywodraethwr Ysgol, gallwch anfon e-bost atom yn Diverse@valeofglamorgan.gov.uk am fwy o wybodaeth.
Gallwch ddarllen erthygl Martine yn llawn yma:
Cylchlythyr y Gwanwyn Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro
Beth i'w wylio: Windrush Rhwng Dau Fyd
Dyma bennod arbennig a gyflwynwyd gan Emily Pemberton sy'n ymchwilio i hanes cenhedlaeth Windrush Cymru. Mae'r rhaglen yn Gymraeg, ond mae isdeitlau Saesneg ar gael hefyd. Gallwch wylio'r rhaglen ar BBC iPlayer.
Gwyliwch ar-lein