Yr Wythnos Gyda Rob

19 Ebrill 2024

Annwyl gydweithwyr,

Gobeithio eich bod chi i gyd yn mwynhau'r heulwen hirddisgwyliedig wrth i ni gyrraedd y penwythnos.

FIS Award Ceremony

Hoffwn i ddechrau'r wythnos hon gan longyfarch ein tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) am ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf, rhywbeth y gwnaethant ei ddathlu trwy wahodd partneriaid o wahanol sectorau i ymuno â nhw mewn digwyddiad ddydd Llun. 

Mae'r Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn wobr genedlaethol sy'n cydnabod Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd sy'n dangos rhagoriaeth wrth ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd lleol a'n tîm yn y Fro yw'r trydydd GGiD yng Nghymru i gyflawni'r achrediad.

Mae Mynegai’r GGiD yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol, a gafodd ei nodi’n gryfder yn adroddiad yr aseswr ar ôl cyfweld â gofalwyr a rhieni’r rheiny ag anghenion cymhleth.

Roedd adborth un rhiant yn arbennig o gefnogol i'n tîm GGiD: "Mae gen i ddau blentyn ag anableddau, ac mae gen i awtistiaeth ac anableddau hefyd.

“Ges i help gan y GGiD gyntaf gyda gwybodaeth am sut i gael addasiadau rhesymol yn yr ysgol i fy mhlant, ac ers hynny, rydw i wedi gallu cael gafael ar grantiau drwy’r Mynegai.

“Maen nhw bob amser yn cysylltu â fi ar ôl fy ngalwadau i holi a oes angen help arna’ i o hyd, sy’n wych pan rydych chi’n niwroamrywiol. Maen nhw’n ymgyrchu ar fy rhan ac yn gwneud i fi deimlo bod fy llais yn cael ei glywed ac yn fy rymuso.”

FIS team with quality award

Roedd yr adroddiad hefyd yn canmol gwaith partneriaeth y tîm wrth ddarparu gwasanaeth allgymorth i rieni yn y gymuned.

Cafodd Parti Nadolig i Deuluoedd y GGiD, a groesawodd dros 700 o westeion, ei nodi’n gyfle ardderchog i rieni gysylltu a rhieni eraill a dysgu am y cymorth sydd ar gael iddynt. 

Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Becky Wickett a'i thîm am eu gwaith caled. Mae'n werth chweil gweld yr effaith y mae gwasanaethau fel y GGiD yn ei chael ar iechyd a lles ei ddefnyddwyr a sicrhau bod rhai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed yn cael y gefnogaeth a'r mynediad at wasanaethau hanfodol sydd eu hangen arnynt. Da iawn.

Carers event at Memo 1

Yn dilyn y digwyddiad hwn, roedd dathliad gwych o gyflawniadau staff gofal ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri ddydd Mercher. Roedd y digwyddiad yn arddangos y gofal a'r cymorth o'r radd flaenaf a ddarperir gan y Cyngor a'i bartneriaid, ac yn bwysicaf oll yr holl ofalwyr unigol sy'n ei gwneud yn bosibl. 

Roedd y staff gofal a ddathlwyd yn gymysgedd o staff y Cyngor a'r rhai sy'n gweithio i ddarparwyr gofal a gomisiynwyd yn breifat a oedd wedi ennill cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cafodd dros 100 o aelodau staff bowlen seramig wedi'i gwneud â llaw a grëwyd gan Vision 21 (sefydliad nid-er-elw sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu i wireddu eu potensial) fel arwydd diolch gan eu cyflogwyr.

Carers event at memo 2

Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig wrth ddangos i'n cydweithwyr a phawb sy'n gweithio i gefnogi pobl agored i niwed pa mor werthfawr ydyn nhw. Roedd yr adborth ar ôl y digwyddiad yn gadarnhaol iawn yn enwedig am y ffaith bod staff gofal, sy'n gwneud rôl sydd mor hanfodol yn ein cymdeithas, ac sy'n gwneud gwaith gwych mewn cyfnod mor heriol, wedi cael eu cydnabod fel hyn.

Trefnwyd y digwyddiad gan dîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol y Fro. Fe wnaeth pob aelod o'r tîm gamu i mewn ar y diwrnod (hir iawn) i'w wneud yn llwyddiant ond mae Steve Davies, ein Swyddog Prosiect, a Katie Foster, gweinyddwr y tîm, yn haeddu sylw arbennig am eu hymdrechion. Gwaith da bawb!

Ysgol Y Deri winning at Welsh Television Awards

Digwyddodd hyn yn ystod yr un wythnos yr enillodd Ysgol Arbennig yr enwebiad categori ar gyfer y Sioe Gomedi neu Adloniant Gorau yn seremoni wobrwyo Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru.

Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae'r rhaglen yn adrodd hanes Ysgol y Deri ac yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae'r staff yn ei wneud i greu amgylchedd dysgu gwerth chweil i blant ag anghenion dysgu corfforol ac ychwanegol.

Er i Chris Britten, Pennaeth Ysgol Y Deri, ddweud wrthyf ei fod wedi cael sioc oherwydd y fuddugoliaeth, rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran pob un ohonom pan ddywedaf nad oeddwn wedi synnu a bod hyn yn haeddiannol dros ben.

Er gwaethaf ein sefyllfa ariannol bresennol, mae'r Cyngor wedi pwysleisio’n gyson bwysigrwydd parhau i ddarparu gofal a chymorth o'r radd flaenaf i'n trigolion mwyaf bregus, ac mae Ysgol y Deri yn enghraifft wych o'r effaith gadarnhaol a gawn ar les corfforol, emosiynol a chymdeithasol ein defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r gwaith y mae'r staff yn ei wneud yn yr ysgol yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn arddangos gwasanaeth cyhoeddus a'n Cyngor ar ei orau.

Diolch yn fawr iawn i'n staff, disgyblion a rhieni Ysgol y Deri, a da iawn unwaith eto am ennill y wobr. Llongyfarchiadau!

Play Streets in Barry

Ymddengys nad yw'r gydnabyddiaeth genedlaethol o'r gwaith rydym yn ei wneud yn y Fro yn dod i ben yno yr wythnos hon. Cafodd ein Prosiectau Strydoedd Chwarae eu cynnwys yng nghylchlythyr Cenedlaethau'r Dyfodol y mis hwn gan Gomisiynydd Cymru, Derek Walker.

Mae'r prosiect, a ymddangosodd hefyd fel segment ar ITV Wales fis diwethaf, yn enghraifft lwyddiannus o oresgyn rhwystrau i chwarae yn yr awyr agored tra hefyd yn cyfrannu tuag at dargedau sero-net. Ar hyn o bryd, mae dwy stryd yn y Fro yn cau i draffig am ddwy awr ar un dydd Sul y mis, sy'n caniatáu i blant chwarae allan ar y strydoedd heb ofni cael eu taro gan draffig sy'n teithio atynt.

Roedd y cylchlythyr hefyd yn tynnu sylw at yr ymdeimlad o gymuned y mae plant ac oedolion wedi elwa ohono ers cymryd rhan yn y cynllun.

Play Streets in barry 2

Dywedodd Uwch Swyddog Byw'n Iach y Fro, Joanne Jones: "Mae'r prosiectau peilot Strydoedd Chwarae wedi cael effaith enfawr ar eu cymunedau, nid yn unig yn cynyddu cyfleoedd i blant chwarae ond hefyd i gymdogion o bob oed ddod at ei gilydd. Mae'r tîm yn llawn cyffro am y posibilrwydd o gefnogi mentrau tebyg mewn mannau eraill yn y Fro erbyn hyn."

Mae Joanne a'i Thîm Byw'n Iach wedi bod yn allweddol i lwyddiant y cynllun peilot, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cyflawni llwyddiant pellach trwy gyflwyno'r fenter i leoliadau eraill.

Nododd y Comisiynydd hefyd fod Cyngor Caerdydd ers hynny wedi cyhoeddi cynlluniau i archwilio cynllun Strydoedd Chwarae ar ôl dysgu am gynllun y Fro - sy'n enghraifft arall o sut yr ydym ni fel awdurdod lleol yn parhau i arwain drwy esiampl ledled Cymru. Da iawn i chi gyd!

Rwy'n gobeithio y bydd pawb sy'n rhan o'r holl brosiectau hyn sy'n ennill clod yn genedlaethol, a phob un ohonoch sy'n gweithio'r un mor galed ar bopeth arall a wnawn, yn cael peth amser y penwythnos hwn i fyfyrio ar y gwahaniaeth enfawr y mae'r gwaith hwn yn ei wneud i fywydau pobl.

Yn olaf, roeddwn i am dynnu eich sylw at ddiweddariad gan y tîm Digidol. Ar ôl cynnal cyfres o sesiynau holi ac ateb yr wythnos hon, mae'r tîm nawr yn paratoi i drosglwyddo pob ffôn bwrdd gwaith i Ffonau Microsoft Teams.

Bydd y newid yn cael ei gyflwyno’n raddol dros yr wythnosau nesaf gyda'r trosglwyddiad cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer dydd Iau nesaf.

Mae cydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod pontio, a byddwn yn annog unrhyw un y bydd y newidiadau yn effeithio arno i ddarllen yr adnoddau cymorth a hyfforddiant ar Staffnet i sicrhau bod y newid yn mynd mor ddidrafferth â phosibl.

Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Diolch yn fawr iawn, 

Rob