Mae Julie Gratton yn ymddeol

Ar ôl 42 mlynedd a 5 mis o wasanaeth ymroddedig, mae Julie Gratton ar fin ymddeol o'i rôl fel cynorthwyydd gweinyddol yn yr adran gwasanaethau democrataidd.

julie GrattonEi dyddiad ymddeol swyddogol yw 30 Ebrill, ond ei diwrnod olaf yn y gwaith fydd dydd Mercher 24 Ebrill. Ers ymuno ar 30 Tachwedd 1981 yn adeilad y Swyddfeydd Dinesig, mae Julie wedi bod yn rhan annatod o'r tîm, yn bennaf yn y Gwasanaethau Democrataidd/Gwasanaethau Pwyllgorau.

Mynegodd Karen Bowen, Prif Swyddog Craffu a Gwasanaethau Democrataidd ei gwerthfawrogiad am gyfraniadau Julie, gan ddweud, "Mae Julie wedi bod yn aelod gwych o'r tîm ac yn unigolyn gwirioneddol wych sydd wedi dangos ymroddiad diwyro i'r Cyngor ers y diwrnod cyntaf.

"Mae hi wedi bod yn ased amhrisiadwy i'n gwasanaeth, a bydd colled fawr ar ei hôl."

Er mwyn dathlu gyrfa ac ymrwymiad rhyfeddol Julie i'r Cyngor, bydd cyflwyniad arbennig am 2.00pm ddydd Mercher 24 Ebrill yn y Swyddfa Gyfathrebu ar lawr cyntaf y Swyddfeydd Dinesig, gyferbyn â'r lifftiau, lle gwahoddir cydweithwyr a ffrindiau agos i ddymuno'n dda iddi ar ei hymddeoliad.