Bydd yr adran Iechyd Galwedigaethol yn dechrau cyflwyno brechiadau ffliw eleni yn fuan.

Flu Vaccine Image WelshMae'r ffliw yn salwch anadlol heintus iawn sy'n cael ei achosi gan firysau sy'n newid bob blwyddyn.  Mae'n lledaenu'n hawdd iawn o berson i berson ac mae'n llawer gwaeth nag annwyd gwael.  Gall symptomau person iach fod yn ddifrifol, gan gynnwys gwres, oerfel, cur pen, poen yn y cyhyrau, peswch, a dolur gwddf. 

Yn achos y rhai sydd eisoes â chyflwr iechyd cronig, plant ifanc iawn a'r henoed, gall achosi salwch difrifol fel broncitis a niwmonia sydd angen triniaeth ysbyty. I rai, yn anffodus, gall arwain at ganlyniadau sy'n peryglu bywyd.

Mae menywod beichiog hefyd mewn perygl uchel oherwydd yn ystod beichiogrwydd mae’r system imiwnedd yn wannach nag arfer er mwyn i’r corff dderbyn y ffetws. Oherwydd hynny nid oes gan famau yr imiwnedd sydd ganddyn nhw fel arfer i ymladd firysau.

Argymhellir hefyd eich bod yn cael brechiad ffliw os ydych yn brif ofalwr i berson hŷn neu anabl neu os ydych chi’n treulio amser yng nghwmni agos unigolyn sydd ag imiwnedd gwan.

Gweler isod y dyddiadau y bydd yr adran Iechyd Galwedigaethol yn darparu brechiadau ffliw, hefyd ynghlwm yw'r Ffurflen Caniatâd y ffliw, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau cyn dod i gael brechiadau ffliw i sicrhau bod y rhaglen frechu yn cael ei darparu yn effeithlon. 

Dyddiadau:

  • Dydd Gwener 29 Medi 2023 Swyddfeydd Dinesig 10:30am – 4pm Rhaid Cadw Lle
  • Dydd Gwener 6 Hydref 2023 Depo’r Alpau 6am – 8am Rhaid Cadw Lle
  • Dydd Gwener 6 Hydref 2023 Swyddfeydd y Dociau 10am – 12pm Rhaid Cadw Lle
  • Dydd Gwener 6 Hydref 2023 Swyddfeydd Dinesig 10am – 12pm Rhaid Cadw Lle
  • Dydd Gwener 17 Hydref 2023 Swyddfeydd Dinesig 1pm – 4.15pm Rhaid Cadw Lle
  • Dydd Gwener 18 Hydref 2023 Swyddfeydd Dinesig 2pm – 4pm Rhaid Cadw Lle
  • Dydd Llun 23 Hydref 2023 Swyddfeydd Dinesig 2pm – 4pm Rhaid Cadw Lle
  • Dydd Gwener 27 Hydref 2023 Swyddfeydd Dinesig 8.30am – 4pm Rhaid Cadw Lle

Cysylltwch â OHAdmin@valeofglamorgan.gov.uk  i drefnu apwyntiad

Mae croeso i chi gysylltu â’r Adran Iechyd Galwedigaethol os oes gennych chi ymholiadau pellach.