Tourism Survey Barry IslandPa effaith mae twristiaeth yn ei gael ar ein cymunedau?

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae cymunedau ym Mro Morgannwg yn ystyried twristiaeth.

Mae’r Fro yn un o dair ardal beilot sy’n gweithio gyda Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Gwynedd a Sir Benfro i geisio barn trigolion lleol am dwristiaeth yn eu hardaloedd lleol.

Hoffem ddysgu mwy am yr effaith y mae twristiaeth yn ei chael ar ein cymunedau, beth yw’r manteision a’r anfanteision sy’n deillio ohono, a sut i lunio a sicrhau ei ddatblygiad cynaliadwy.

Defnyddir y canfyddiadau i lywio polisi twristiaeth yn y dyfodol, er mwyn ymateb i anghenion lleol yr holl gymunedau dan sylw.

Mae'r arolwg wedi'i anelu at drigolion y Fro, ond gwyddom fod nifer o gydweithwyr yn byw yma hefyd, felly rhannwch eich barn drwy gwblhau'r arolwg.

Er mai ein nod yw sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, ni fyddwn yn gofyn ichi am unrhyw wybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i’ch adnabod. Yn wir, bydd eich holl ymatebion yn cael eu cadw'n gwbl gyfrinachol.

Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol, ac rydych yn rhydd i dynnu’n ôl o’r arolwg ar unrhyw adeg.

Dilynwch y ddolen isod i gwblhau’r arolwg:

Arolwg Trigolion Cymru - Bro Morgannwg | Ymweld â'r Fro