Codi Llais!

Rhoi gwybod am Gamymarfer yn y gweithle

Speak out Staffnet tile - CYMAr ôl lansio'r Hyb Codi Llais a'r ymgyrch hyrwyddo ategol y llynedd, gwnaethom ofyn i staff gwblhau arolwg er mwyn mesur eu hymwybyddiaeth o'r polisi a'r weithdrefn chwythu'r chwiban, a'u parodrwydd i godi llais. 

Gofynnom hefyd i staff awgrymu beth fyddai'n eu helpu i ddeall y polisi yn well. Yn unol â'r adborth hwn, mae'r polisi wedi'i ddiweddaru ac rydym wedi gwella hyb Codi Llais ac mae'r ymgyrch eleni i gynnwys 'polisi ar dudalen' , animeiddiad crynodeb, ac mae datblygu modiwl iDev ar y gweill. 

Mae'r Hyb Codi Llais yn ei gwneud hi'n gyflym ac yn hawdd i chi roi gwybod am eich pryderon drwy ffurflen ar-lein, llinell ffôn neu e-bost (yn gyfrinachol os hoffech). 

Hwb Codi Llais

Mae polisi chwythu'r chwiban y Cyngor yn croesawu'r holl bryderon gwirioneddol ac yn trin materion a adroddwyd o ddifrif. allwch ddod o hyd i restr lawn o faterion chwythu'r chwiban ar y Hwb Codi Llais.

Mae codi’ch llais neu 'chwythu'r chwiban' yn cael effaith gadarnhaol ar y sefydliad, gan ddiogelu cyllid ac enw da'r Cyngor tra'n cadw cydweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel.

Nid yw'r Cyngor yn goddef unrhyw aflonyddu neu erlid a bydd yn cymryd camau i amddiffyn y rhai sy'n codi pryderon. Mae cyfraith y DU yn amddiffyn gweithwyr rhag diswyddiad, aflonyddu neu erledigaeth os bydd triniaeth o'r fath yn digwydd o ganlyniad i ddatgeliad chwythu'r chwiban yr ystyrir ei fod er budd y cyhoedd.

Sut i Godi Llais

Yn gyntaf, ystyriwch a yw eich pryder yn fater chwythu'r chwiban neu'n gŵyn.  Os ydych yn ansicr, gallwch ddarllen mwy am faterion chwythu'r chwiban ar dudalen 7 o bolisi chwythu'r chwiban y Cyngor.

Rhowch wybod am eich pryderon gan ddefnyddio'r ffurflen Codi Llais ar-lein, dros e-bost neu dros y ffôn (yn gyfrinachol os hoffech).

Fel arall, os byddai'n well gennych, gallwch roi gwybod yn uniongyrchol i'ch rheolwr llinell am eich pryderon.