Trefniadau Angladd Phil Southard
Mae manylion angladd a gwasanaeth coffa Phil Southard, Rheolwr Diwylliant a Dysgu Cymunedol y Cyngor, a fu farw'n annisgwyl yn ddiweddar, wedi cael eu rhannu gyda phob cydweithiwr gan deulu Phil.
Cynhelir yr angladd yn Amlosgfa’r Barri, Port Road East, Y Barri, Bro Morgannwg, CF62 9PX am 1pm ar 13 Medi.
Ar ôl hyn, mae croeso i bawb oedd yn adnabod Phil ymuno â'i deulu a'i ffrindiau ym Mhafiliwn Pier Penarth, Yr Esplanâd, Penarth, CF64 3AU, i rannu eu hatgofion am ei fywyd ac am yr effaith enfawr y cafodd ei waith ar eu bywydau.
I gydnabod gwaith Phil yn dod â'r Pafiliwn yn ôl i'r gymuned oedd mor bwysig iddo, a'i gyfraniad i ddysgu gydol oes, enw ystafell ddosbarth y Pafiliwn fydd Dosbarth Southard - Southard Classroom.
Mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, ac rydym yn annog unrhyw un sydd wedi ei effeithio i ofyn am help. Gellir cysylltu â'n gwasanaeth cwnsela, Care First, ar 0800 174 319. Mae cydweithwyr Iechyd Galwedigaethol hefyd wrth law i helpu.