Yr Wythnos Gyda Matt.
08 Medi 2023
Annwyl gydweithwyr,
Mae Rob wedi gofyn i mi baratoi crynodeb yr wythnos hon gan ei fod ar wyliau. I'r rhai ohonoch nad wyf wedi cwrdd â chi eto, Matt ydw i, Pennaeth Cyllid y Cyngor. Ymunais â'r Fro y llynedd ac rwy'n rhan o'r tîm rheoli yng nghyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol newydd y Cyngor. Fel bob amser, mae gennyf ddiweddariadau o bob rhan o'r Cyngor ac rwyf hefyd yn mynd i amlygu rhywfaint o'r gwaith gwych sy'n digwydd yn yr adran Adnoddau Corfforaethol.
Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw croeso’n ôl i'r holl gydweithwyr hynny sy'n dychwelyd i'n hysgolion ar ôl gwyliau'r haf. Ar ôl gweithio mewn llywodraeth leol am dros 30 mlynedd, rwy'n ymwybodol iawn nad yw gwyliau'r haf yn wyliau chwe wythnos fel y mae llawer o bobl yn ei ddychmygu ond gobeithio y cafodd pawb gyfle i ymlacio a’ch bod yn edrych ymlaen at y tymor sydd o'n blaenau.
A sôn am amseru, cafodd penderfyniad Adran Addysg Lloegr i ailddosbarthu'r risg o ysgolion a adeiladwyd gan ddefnyddio Concrid Awyrog Awtoclafedig Dur (CAAD) ar drothwy'r tymor newydd sylw llawer o bobl.
Er bod pob ysgol yn y Fro wedi agor fel arfer, rwy'n siŵr y bydd y newyddion yma wedi achosi pryder i rai cydweithwyr a'u teuluoedd. Mae timau Dysgu a Sgiliau ac Eiddo y Cyngor wedi bod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth Cymru, CLlLC, ac awdurdodau lleol eraill drwy gydol yr wythnos. Mae adolygiad o'n data ystâd ysgolion yn cael ei gynnal ac mae cydweithwyr yn gweithio'n galed i gasglu'r holl wybodaeth hon mewn pryd i'w rhannu â Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf.
Mae amseru'r newyddion yma braidd yn eironig oherwydd dros y ddau fis diwethaf mae'r timau Gwasanaethau Eiddo ac Adeiladau wedi bod yn gweithio'n ddi-stop i ddarparu'r rhaglen adnewyddu asedau flynyddol ar gyfer ysgolion y Fro. Bob blwyddyn mae gwyliau'r haf yn rhoi cyfle i'n timau wneud gwelliannau ac unrhyw waith cynnal a chadw sylweddol heb amharu ar ddisgyblion.
Cwblhawyd prosiectau sylweddol mewn 19 ysgol, gyda mân waith adnewyddu wedi cael ei wneud mewn llawer mwy. Mae llawer o'r gwaith hwn yn cynnwys pethau fel uwchraddio toiledau, ailwynebu meysydd chwarae, ac atgyweirio toeau a dyma'r gwaith sy'n gwneud ein hysgolion yn fannau dymunol a diogel i ddisgyblion ddysgu ac i gydweithwyr weithio. Dan reolaeth y tîm Masnachol ac Ymgynghori, mae'r gwaith yn cynnwys cydweithwyr o bob rhan o'r adran Eiddo. Mae bron pob rhan o'r gwaith yn cael ei gwblhau gan y Gwasanaethau Adeiladau ac rwy'n credu bod hon yn enghraifft wych o ddull Tîm y Fro y clywais gymaint amdano cyn ymuno â'r Cyngor. Ar ran pawb sy'n dychwelyd i ysgolion gwell a chydweithwyr ar draws y Cyngor, hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth raglen adnewyddu asedau eleni’n llwyddiant.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai yn ein tîm Cyllid a weithiodd mor gyflym i brosesu'r taliadau gwyliau o £50 i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros yr haf. Er bod y rhan fwyaf ohonom, a'r rhan fwyaf o blant yn sicr, yn dyheu i'r gwyliau ddechrau, gall fod yn gyfnod pryderus iawn i rai teuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw. Bydd y taliadau wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r cydweithwyr hynny a weithiodd mor galed i nodi'r cyllid sydd ar gael a phrosesu'r taliadau mor gyflym. Diolch yn fawr bawb.

Rydw i'n ceisio dilyn esiampl Rob a defnyddio rhywfaint o fy nghymraeg. Soniodd Rob yr wythnos diwethaf ei fod wedi cymryd rhan mewn cyflwyniad i ddysgwyr Cymraeg. Rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i yno hefyd yn derbyn fy un i am gwblhau'r cwrs lefel mynediad, teimlad braf iawn i frodor o Dde Sir Benfro. Mae dysgu sgiliau newydd bob amser yn brofiad pleserus. Un o'r pethau sydd wedi fy nharo ers ymuno â'r Fro yw ymrwymiad y sefydliad i ddatblygu ei staff ei hun. Mae hyn yn rhywbeth y mae cydweithwyr ym maes AD bob amser yn gweithio i’w ddatblygu.
Mae Strategaeth Ariannol a Phobl Tymor Canolig y Cyngor yn nodi'n glir iawn faint y bydd yn rhaid i ni ei newid fel sefydliad i ddod allan o'r blynyddoedd nesaf fel awdurdod lleol cryfach. Byddaf yn maddau i'r rhai ohonoch sydd heb ddarllen y ddau yn llawn ond byddaf yn argymell bod cydweithwyr yn cymryd yr amser i ddysgu ychydig mwy am yr hyn sydd o'n blaenau a'r cyfleoedd a fydd ar gael i bawb ddatblygu eu hunain i gwrdd â'r heriau hyn. Beth bynnag yr heriau - ac fe wnaeth y newyddion am Gyngor Birmingham yr wythnos hon amlygu pa mor sylweddol yw'r rhain - rwy'n credu'n gryf bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn i lywodraeth leol. Mae posibiliadau enfawr ar gyfer trawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithio a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac rwy'n falch o fod yn rhan o Gyngor sydd â chynlluniau mor uchelgeisiol yn y maes hwn.

Mae ein cynlluniau ariannol a phersonél yn uchelgeisiol a'r rhaglen waith ddiweddaraf sy'n adeiladu ar y rhain ac sy'n helpu i lunio'r Cyngor ar gyfer y dyfodol yw ein Strategaeth Ddigidol. Daeth yr ymgynghoriad ar hon i ben heddiw (08 Medi) a hoffwn ddiolch i'r holl gydweithwyr a gymerodd yr amser i rannu eu barn. Bydd yr ymatebion yn cael eu hadolygu a’r strategaeth yn cael ei diwygio i gyd-fynd â'r rhain.
Menter arall yw Prosiect Sero sy'n cael ei arwain gan Adnoddau Corfforaethol sy'n helpu timau ar draws y Cyngor i newid sut maent yn gweithio a chefnogi ymdrechion y Fro i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae cyfle o hyd i dimau wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau a fydd yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion Prosiect Sero.

Ariannwyd naw prosiect ar ôl rownd gyntaf lwyddiannus o geisiadau. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen addysg 'energy sparks' mewn ysgolion, astudiaethau cwmpasu ar gyfer prosiectau lleihau carbon, a chyllid rhannol ar gyfer rôl bwyd a ffermio newydd. Mae'r rownd nesaf yn cau ar 02 Hydref ac mae Rheolwr Rhaglen Prosiect Sero, Susannah McWilliam, ar gael i helpu pob cydweithiwr sy'n credu y gallai fod ganddynt syniad priodol.
Efallai na fydd llawer ohonoch yn ymwybodol ei bod hi’n Wythnos Genedlaethol y Gyflogres yr wythnos hon. Byth eisiau sylw, mae ein tîm cyflogres wedi parhau fel arfer - gan weithio'n galed i sicrhau bod pob un o'r 5000+ o staff sy'n cael eu cyflogi gan y Cyngor a'r Ysgolion yn cael eu talu'n gywir ac ar amser. Rwy'n credu y byddwch yn cytuno â mi fod hwn yn waith pwysig iawn. Mae'r gyflogres yn debyg i lawer o wasanaethau corfforaethol o ran nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn meddwl am y gwasanaeth mwy na thebyg... ond bydden ni pe bai unrhyw beth yn mynd o'i le. Y rheswm pam nad yw hynny'n digwydd yw oherwydd bod gennym dîm gwych. Er gwaethaf yr holl heriau y mae'r prosiect Oracle Fusion, gwahanol amodau gweithwyr, a dyfarniadau cyflog cymhleth yn eu creu, mae Sarah, Diane, Paula, Christine, Christina, Emma, Alice, Caroline, Kevin, Gareth, Alix, Jess, Laxmi a Louise yn parhau i weithio'n ddiwyd ac yn ddiduedd i sicrhau bod y Cyngor yn gallu cyflawni ei ymrwymiad mwyaf sylfaenol i staff. Ar ran pob gweithiwr, diolch yn fawr i bob un ohonoch. Yn olaf, rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau Cwpan Rygbi'r Byd y penwythnos hwn. Pob lwc i dîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf yn Bordeaux ar y penwythnos. P'un a ydych chi'n gwylio'r gêm ai peidio, gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos gwych.
Diolch i bawb am eu gwaith yr wythnos hon i wneud y Fro yn lle mor wych i fyw ynddo ac yn Gyngor gwell byth i weithio iddo. Diolch yn fawr bawb.
Matt