Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant!

#CymrydCamauGwneudGwahaniaeth

NIW23 Take action make impact logo

Mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2022 yn cael ei chynnal o 25 Medi i 1 Hydref 2023.

Mae'r Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yn wythnos sy'n ymroddedig i ddathlu cynhwysiant a gweithredu i greu gweithleoedd cynhwysol.  Wedi'i sefydlu gan Gyflogwyr Cynhwysol, mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant bellach yn ei unfed flwyddyn ar ddeg.

Mae'n rhoi cyfle gwych i ni feddwl, dysgu a nodi'r hyn y gallwn ei wneud i fod yn bobl well i'n gilydd.

Y thema y flwyddyn hon yw #CymrydCamauGwneudGwahaniaeth

Gofynnir i ni gymryd nifer o gamau gweithredu yr wythnos hon i gael effaith ar gynhwysiant.  Mae'r rhain yn cynnwys cymryd camau i ymgysylltu a grymuso staff.

Rydym eisiau i chi fod yn rhan o’n gwaith cynhwysiant. Ffordd wych o wneud hyn yw drwy ymuno a bod yn rhan o un o'n rhwydweithiau staff. 

Hoffem eich gwahodd i ddigwyddiad Rhwydwaith ar Teams ddydd Mawrth 3 Hydref am 2:30pm i gwrdd ag aelodau o'r rhwydweithiau a chael gwybod mwy.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma:

Sesiwn Holi Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant

Gallwch hefyd gyflwyno cwestiynau ar gyfer y digwyddiad drwy lenwi'r ffurflen ddienw hon:

Cyflwyno Cwestiwn

Cliciwch ar y logos i gael gwybod mwy am ein rhwydweithiau:

GLAM logo

Diverse-Staff-Network

Rydym hefyd am i chi gael eich grymuso i wneud gwahaniaeth yn eich rôl, tîm, sefydliad a bywyd ehangach.  Un ffordd y gallwn helpu i rymuso ein cydweithwyr yw drwy rannu straeon a phrofiadau bywyd gwahanol aelodau o staff.

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant a'r thema #CymrydCamauGwneudGwahaniaeth ewch i Cyflogwyr Cynhwysol.