Staffnet+ >
Eich amddiffyniad fel chwythwr chwiban
Eich amddiffyniad fel chwythwr chwiban
Mae codi’ch llais neu 'chwythu'r chwiban' yn cael effaith gadarnhaol ar y sefydliad, gan ddiogelu cyllid ac enw da'r Cyngor tra'n cadw cydweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel.
Gall lleisio pryderon fod yn frawychus, ond mae gan y Cyngor weithdrefnau ar waith i amddiffyn y rhai sy'n codi llais.
Pa amddiffyniad fydd yn cael ei gynnig i mi?
Nid yw'r Cyngor yn goddef unrhyw aflonyddu neu erledigaeth (gan gynnwys pwysau anffurfiol) a bydd yn cymryd camau disgyblu neu unioni os bydd unrhyw un yn ceisio erlid chwythwr chwiban neu atal pryderon rhag cael eu codi.
Mae cyfraith y DU hefyd yn amddiffyn gweithwyr rhag diswyddiad, aflonyddwch neu erledigaeth os bydd triniaeth o'r fath yn digwydd o ganlyniad i chwythu'r chwiban er budd y cyhoedd, a bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau na ddatgelir eich enw heb eich caniatâd.
Gallwch ddarllen mwy am yr amddiffyniad cyfreithiol a roddir i chwythwyr chwiban ar dudalen 5 o bolisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor.
Sut dylwn i godi pryder?
Mae polisi chwythu'r chwiban y Cyngor yn croesawu'r holl bryderon gwirioneddol ac yn trin materion a adroddwyd o ddifrif.
Mae'r Hyb Codi Llais yn ei gwneud hi'n gyflym ac yn hawdd i chi roi gwybod am eich pryderon drwy ffurflen ar-lein, llinell ffôn neu e-bost (yn gyfrinachol os hoffech).
Beth dylwn i ei ddisgwyl neaf?
Bydd y Rheolwr Gweithredol Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cofnodi'r honiad ar gofrestr ganolog. O fewn y 10 diwrnod gwaith nesaf bydd y chwythwr chwiban yn cael esboniad ar sut mae'r Cyngor yn bwriadu delio â'r mater.
Bydd ymateb y Cyngor yn dibynnu ar natur y pryder a godwyd.Gallwch ddod o hyd i ymatebion enghreifftiol a chamau gweithredu ar dudalen 10 Polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor.
Y llynedd, gofynon ni beth fyddai'n eich helpu i ddeall polisi chwythu'r chwiban y Cyngor yn well. Yn unol â'r adborth hwn, mae'r polisi wedi'i ddiweddaru ac rydym wedi gwella hyb Codi Llais ac mae'r ymgyrch eleni i gynnwys 'polisi ar dudalen' , animeiddiad crynodeb, ac mae datblygu modiwl iDev ar y gweill.
Animeiddiad crynodeb byr: