Staffnet+ >
Cyngor yn lansio arolwg twristiaeth
Cyngor yn lansio arolwg twristiaeth
Mae'r Tîm Twristiaeth am glywed barn preswylwyr lleol am y diwydiant hwn - ac mae hynny'n cynnwys staff.

Gyda thymor yr haf bellach ar ben, mae'r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae'r Fro yn ystyried twristiaeth.
Y nod yw casglu barn y rhai sy'n byw yn yr ardal, gyda phrosiectau tebyg yn rhedeg yng Ngwynedd a Sir Benfro, gyda chefnogaeth Croeso Cymru.
Mae'n bwysig cyfleu manteision ac anfanteision twristiaeth fel y gellir ei reoli'n gynaliadwy.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gwblhau arolwg, gyda'r canfyddiadau’n cael eu defnyddio i lywio polisi'r dyfodol i ddiwallu anghenion y cymunedau dan sylw orau.
Er mai'r pwrpas yw sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, gellir rhoi pob ymateb yn ddienw fel nad oes risg o adnabod unrhyw un, a gall y cyfranogwyr dynnu'n ôl o'r broses ar unrhyw adeg.
Mae twristiaeth yn darparu swyddi ac yn helpu i gefnogi amrywiaeth eang o fusnesau, ond gall hefyd roi pwysau ar ein rhwydwaith trafnidiaeth a seilwaith arall.
Mae pob barn yn bwysig, felly cymerwch amser i rannu eich barn chi.