Staffnet+ >
Dathlu Dysgwyr yng Nghanolfan Ddysgu'r Fro
Dathlu Dysgwyr yng Nghanolfan Ddysgu'r Fro
Ddydd Llun 25 Medi, cynhaliwyd digwyddiad Cyflwyniad i Ddysgwyr yn yr Oriel Gelf Ganolog, Llyfrgell y Barri i ddathlu myfyrwyr Canolfan Ddysgu'r Fro sydd wedi ennill cymwysterau yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Roedd yn wych gweld cymaint o ddysgwyr yn mynychu i gasglu eu tystysgrifau a chael eu canmol yn fawr am eu holl ymdrechion anhygoel.
Dathlwyd sawl categori gwahanol gan gynnwys Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill Trinity Skills For Life o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2. Gwnaeth tiwtoriaid ymroddedig Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Pat Roberts ac Eliza Baker, dan arweiniad Cydlynydd Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Sharon Kitching, sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi a'i baratoi'n dda drwy gydol y flwyddyn academaidd yn ogystal ag yn ystod yr arholiadau ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn y canlyniadau rhagorol. Pasiodd 34 o ddysgwyr brofion darllen; pasiodd 21 brofion ysgrifennu a phasiodd 26 brofion siarad a gwrando gyda 21 o’r rheiny yn sgorio 100% yn eu harholiadau. Llwyddodd 11 o ddysgwyr basio'r tair elfen gan ennill Tystysgrif Lawn – cyflawniad gwych!
Cyflwynwyd tystysgrifau hefyd i ddysgwyr a enillodd gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu (Saesneg) a Chymhwyso Rhif (mathemateg). Roedd 33 o bobl wedi pasio, yn amrywio o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 2, cynnydd sylweddol o'r flwyddyn flaenorol. Bu'r tiwtoriaid profiadol Pippa Jones, Sharon Kitching a Genevieve Davies yn helpu dysgwyr drwy gydol eu siwrneiau dysgu i gyrraedd eu potensial llawn, magu hyder a chyflawni cymwysterau gwerthfawr.
Ochr yn ochr â hyn, pasiodd 85 mewn unedau Agored Cymru ar draws Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, llythrennedd a rhifedd. Da iawn bawb.
Dathlwyd tri dysgwr ysbrydoledig a gafodd eu henwebu gan eu tiwtoriaid ar gyfer y Gwobrau Dysgu Oedolion cenedlaethol Insipre!, a dyfarnwyd tystysgrifau Canolfan Ddysgu y Fro i 15 o ddysgwyr am bresenoldeb rhagorol drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r Cydlynydd Achredu ac Asesu, Cath Roberts, wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod Canolfan Ddysgu'r Fro yn cadw ei statws arholiadau rhagorol, yn cynnal prosesau ansawdd trylwyr ac yn sicrhau bod asesiadau ac arholiadau yn rhedeg yn esmwyth, yn ogystal â gwirio ein holl unedau Agored Cymru hefyd.
Diolch yn fawr i Nicola Butler o Ganolfan Ddysgu'r Fro am drefnu'r Digwyddiad Cyflwyno a helpu i'w wneud yn brofiad mor llwyddiannus a phleserus i bawb. Diolch hefyd i Tracey Harding o’r Oriel Gelf Ganolog am ddarparu lleoliad mor hyfryd yn ogystal ag i staff y llyfrgell am eu cymorth amhrisiadwy.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyrsiau dysgu oedolion yma.