Cynhelir Mis Hanes Anabledd y DU
Cynhelir Mis Hanes Anabledd y DU (UKDHM) rhwng 16 Tachwedd ac 16 Rhagfyr eleni.
Dechreuodd Mis Hanes Anabledd y DU yn 2009. Mae'n ddigwyddiad blynyddol gyda'r nod o greu llwyfan i ganolbwyntio ar hanes brwydr pobl anabl dros gydraddoldeb a hawliau dynol.
Y thema ar gyfer 2023 yw 'Anabledd, Plant ac Ieuenctid'. Mae'r thema’n ein hannog i edrych ar brofiad plant a phobl ifanc anabl yn y gorffennol, y presennol a'r hyn y mae angen ei ystyried ar gyfer y dyfodol.
Mae Mis Iechyd Anabledd y DU yn cefnogi'r Model Cymdeithasol o anabledd ac yn ymgyrchu dros newid cymdeithas i sicrhau bod rhwystrau'n cael eu dileu i bobl a phlant ag anableddau neu namau.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan UKDHM a gweld eu hadnoddau yma.
Yma yng Nghyngor Bro Morgannwg, rydym yn gweithio'n galed i lansio rhwydwaith staff anabledd. Rydym eisiau galw ein rhwydwaith yn ABL. Ein gobaith yw y bydd hyn yn rhoi cymorth i staff ag anableddau, canllawiau i reolwyr, ac yn helpu i lunio polisïau drwy ystyried mewnbwn staff ag anableddau. Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, anfonwch e-bost at Elyn Hannah ar ehannah@valeofglamorgan.gov.uk.