Gwasanaeth Dydd y Cadoediad, Dydd Iau 9 Tachwedd

06 Tachwedd 2023

Armistice Flags and Cenotaph outside the Civic OfficesMae'r wythnos hon yn nodi pen-blwydd y Cadoediad yn 105, a oedd yn gytundeb i ddod ag ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf i ben ac i nodi dechrau’r trafodaethau heddwch.

Mae Swyddfa'r Maer wedi trefnu gwasanaeth a gaiff ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Ddydd Iau 9 Tachwedd am 10.45am, bydd Maer Bro Morgannwg, Julie Aviet, yn ymuno â'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Bronwen Brooks, cyn-filwyr, ac urddasolion eraill ar gyfer gwasanaeth coffa a gosod torchau y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig.

Gwahoddir trigolion a staff y Cyngor i fynychu'r seremoni i dalu parch ac i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog.

Os na allwch fynychu'r gwasanaeth, ond yr hoffech dalu parch serch hynny, byddwn yn cymryd rhan mewn 2 funud o dawelwch am 11am.