Y Cyngor yn cynnal digwyddiad cydnabyddiaeth i ddathlu Gofalwyr Maeth y Fro

Ddydd Mercher 17 Mai, cynhaliodd tîm Maethu Cymru y Fro ddigwyddiad cydnabyddiaeth yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Sully Sports i ddiolch i bob gofalwr sy'n maethu drwy'r awdurdod lleol.

Gwelodd y digwyddiad bob gofalwr maeth yn derbyn tusw o flodau a thystysgrif am eu hymroddiad gan y Cynghorydd Eddie Williams; y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Lance Carver; Rheolwr Gweithredol, Karen Conway a Rheolwr Tîm y Tîm Lleoliadau, Derek Maclver.

Gwnaethom siarad â Nicky a Graham, sydd wedi bod yn maethu ers dros 5 mlynedd:

"Roedd yn hyfryd cael cyfle i ddod ynghyd â chyd-ofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill o'r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i gydnabod pwysigrwydd hanfodol yr hyn rydyn ni i gyd yn ei wneud dros bobl ifanc mewn angen yn y Fro.

"Er ein bod yn gwybod bod ein hymdrechion yn cael eu llwyr werthfawrogi bob dydd o’r flwyddyn, mae croeso mawr bob amser pan gaiff y rhain eu cydnabod yn y digwyddiad hwn, pan allwn gamu o brysurdeb bywyd bob dydd a dathlu ein cymuned faethu gyda'n gilydd."

 

Daw'r digwyddiad wrth i'r Cyngor ymuno â sefydliadau ledled y wlad i ddathlu Pythefnos Gofal Maeth (15 – 28 Mai).  Thema #FCF23 eleni yw 'cymunedau maethu' a'i nod yw dathlu'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae gofalwyr maeth awdurdodau lleol wedi'i wneud i fywydau plant.

Mae tîm Maethu Cymru Bro Morgannwg yn gweithio'n galed i sicrhau bod gofalwyr maeth y Fro yn cael eu cefnogi, yn teimlo gwerthfawrogiad, a'u bod yn cael y dysgu a'r datblygiad angenrheidiol i fod y gorau y gallant fod.  

Gallwch ddysgu mwy am faethu ym Mro Morgannwg ar wefan Maethu Cymru.