Gweithdy Rhannu Syniadau yn Agor yr Wythnos Nesaf
Yn cael ei gyflwyno gan Gronfa Her P-RC, bydd gweithdy Cymuned Ymarfer dan Arweiniad Her yn rhoi cyfle i gydweithwyr ar draws Awdurdodau Lleol drafod problemau cyflenwi gwasanaethau.
Anelir y sesiwn at y cyhoedd ac aelodau staff y trydydd sector ym Mro Morgannwg, ac mae'n gwahodd cyfranogwyr i rannu a thrafod syniadau a sut gallan nhw fynd i'r afael â phroblemau gyda'i gilydd. Bydd y gweithdy'n rhoi cyfle i gydweithwyr na fyddai fel arfer yn cwrdd o ddydd i ddydd, i ddefnyddio eu cyfoeth o wybodaeth a rhannu syniadau ar gyfer arloesi mewn man anfeirniadol.
Gan weithio drwy drafodaeth gefnogol wedi’i hwyluso, nod y gweithdy yw darparu atebion i'r problemau hyn ac ychwanegu at y Banc Syniadau a Rennir i helpu eraill sy’n wynebu heriau tebyg
Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf o'r math hwn yn Sir Fynwy ac fe gafodd groeso brwd, mae 10 ymweliad arall wedi'u cynllunio ar draws Awdurdodau Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd cyn bo hir.
TBydd y gweithdy nesaf yn cael ei gynnal yn y Swyddfa Ddinesig ar 17 Mai rhwng 09:30 a 12:00. Os oes gennych ddiddordeb i gadw lle, ewch i'r Dudalen archebu Eventbrite.