Wythnos Genedlaethol Llysieuol

Yn unol ag Addewid Prosiect Sero y Cyngor er mwyn lleihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2030, mae'r Cyngor yn cefnogi'r thema eleni o 'Gwnewch eich Pryd Filltiroedd yn Well".

Mae'r gymdeithas Lysieuol yn annog pobl i gofrestru i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Llysieuol, 15 – 21 Mai a gwneud eu prydau 'filltiroedd yn well'.

Vale-food-trail-logo300x300Dywedodd Louise Goodwin, Rheolwr Ymgyrch Wythnos Genedlaethol Llysieuol: "Nod yr ymgyrch yw ennyn diddordeb pawb, p'un a ydych chi am roi cynnig ar opsiwn llysieuol ar gyfer un pryd yn unig neu am yr wythnos gyfan.

"Mae'n hawdd iawn cofrestru a gwirio'r holl ryseitiau gwych sydd wedi'u cyfrifo ar garbon sy'n dangos y gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud trwy'r bwyd rydych chi'n dewis ei roi ar eich plât".

Fis Mehefin yma, mae Llwybr Bwyd y Fro yn arddangos arlwy'r Fro o fwyd a diod cynaliadwy ar Lwybr Bwyd cyntaf y Fro.

Bydd y Llwybr Bwyd yn cael ei gynnal rhwng 9 a 18 Mehefin ac mae'n cynnwys calendr o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ddod â phobl yn agosach at gynhyrchwyr a busnesau bwyd yn y Fro.

 Os hoffech gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Llysieuol, gallwch ddod o hyd i lu o wybodaeth ddefnyddiol a ryseitiau wedi'u cyfrifo ar garbon ar y Gwefan Wythnos Genedlaethol Llysieuol.