Staffnet+ >
Diwrnod Cenedlaethol Rhwydweithiau Staff
Diwrnod Cenedlaethol Rhwydweithiau Staff
Mae 10 Mai 2023 yn Ddiwrnod Cenedlaethol Rhwydweithiau Staff
Pwrpas y Diwrnod Cenedlaethol Rhwydweithiau Staff yw tynnu sylw at y buddion niferus y mae rhwydweithiau staff yn eu cynnig i'w sefydliadau. Mae hefyd yn cydnabod y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan rwydweithiau staff, a'r gwerth anhygoel y maen nhw'n ei ychwanegu i'r gweithle.
Mae rhwydweithiau'n cefnogi taith y gweithwyr ac yn hybu ymdeimlad o berthyn, gan ddod â phobl o wahanol rannau sefydliad ynghyd.
Y thema eleni yw #CadwnGryf.
Nod #CadwnGryf yw atgoffa rhwydweithiau staff bod sefyll ynghyd â rhwydweithiau eraill, eu cynghreiriaid, a'u cefnogwyr yn golygu pŵer. Mae hyn mewn ymateb i thema bryderus mewn rhannau o'r cyfryngau a chymdeithas sy'n cwestiynu gwerth amrywiaeth a chynhwysiant, ac felly'n tanseilio rhwydweithiau staff.
Mae'r trefnwyr yn gofyn i rwydweithiau ystyried sut mae'r thema #CadwnGryf yn berthnasol i dri phrif faes: lles, cynghreirio, a chynaliadwyedd:
Ein rhwydweithiau staff:
GLAM

Ein rhwydwaith i staff LHDTCRhA+ a’u cynghreiriaid, sy’n:
- gweithio i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDT+ yn y gweithle;
- codi ymwybyddiaeth am ein gwaith yn gyffredinol, a pha mor weladwy y mae; ac
- sy’n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.
Mae GLAM yn agored i unrhyw un sy'n cefnogi nodau ac amcanion y rhwydwaith. Os hoffech ddod yn aelod, cwblhewch ein ffurflen aelodaeth.
Mae rhwydwaith GLAM wrthi'n cael ei adnewyddu, yn sefydlu arweinyddiaeth a chyfansoddiad newydd. Daw diweddariad cyn bo hir.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno e-bostiwch GLAM.
Y Rhwydwaith Amrywiol

Rydym am helpu'r Cyngor i fod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.
Yn rhan o'r genhadaeth hon, nod y grŵp yw:
- Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithle.
- Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'n gwaith, a’i wneud yn weladwy
- Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.
Mae’r rhwydwaith Amrywiol wedi chwarae rhan bwysig yn y sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored, ac wedi dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at wir newid.
E-bostiwch Amrywiol i gael rhagor o wybodaeth neu gallwch gwblhau ffurflen aelodaeth.
Grŵp Anabledd
Mae ein rhwydwaith ar gyfer staff ag anableddau, staff sydd â theulu neu ffrindiau ag anableddau, a'u cynghreiriaid. Os hoffech gymryd rhan neu gael rhagor o wybodaeth, dewch draw i gweithdy’r Rhwydwaith Anabledd rhwng 2pm a 3pm heddiw (dydd Mercher 10 Mai 2023).
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHDTC+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar.
Os ydych chi’n pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.