Staffnet+ >
Gwyl Fach Y Fro yn dychwelyd ar 20 Mai
‘Gŵyl Fach y Fro' yn dychwelyd ar 20 Mai
Bydd Gŵyl Celfyddydau a Diwylliant Gymraeg flynyddol y Fro yn dychwelyd i Bromenâd Ynys y Barri yn ddiweddarach yn y mis.
Mae'r ŵyl yn cynnig cyfle i drigolion y Fro ac ymwelwyr ddathlu iaith a diwylliant Cymru trwy gerddoriaeth, bwyd, a chelf.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Fenter Bro Morgannwg, a sefydlwyd yn 2013 i hyrwyddo ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y Fro drwy greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r gwaith a'r ysgol.
Ar 20 Mai, bydd Menter Bro Morgannwg yn cynnal 'Gŵyl Fach y Fro' unwaith eto yn Ynys y Barri.
Ymhlith rhai o'r cantorion Cymraeg fydd yn perfformio eleni mae'r grŵp pop-roc Gwilym, y gantores alt-pop Tara Bandito, y cerddor medrus N'Famady Kouyaté sy'n cymysgu'r Gymraeg gydag alawon Gorllewin Affrica, a llawer mwy.
Ochr yn ochr â cherddoriaeth fyw, mae nifer o weithdai hefyd, stondinau siopa, gweithgareddau chwaraeon, a stondinau bwyd i bob oedran i'w mwynhau.
Mae'r digwyddiad am ddim i'w fynychu, felly dewch draw o 11 y bore i fwynhau'r dathliadau!