Staffnet+ >
Gwahodd gweithwyr y cyngor i ddathlu Coroni'r Brenin
Gwahodd gweithwyr y cyngor i ddathlu Coroni'r Brenin
Yn dilyn ei gwaith rhagorol yn ystod pandemig y Coronafeirws a'i gyrfa yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae Sharon Miller, Rheolwr Rhanbarthol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y Fro, wedi cael gwahoddiad i fynychu Coroni'r Brenin y penwythnos hwn.
Ddydd Sadwrn yma, 6 Mai, bydd y Brenin Charles yn cael ei goroni'n swyddogol fel Brenin Prydain. Er y bydd dathliadau yn cael eu cynnal o amgylch y DU, bydd seremoni'r coroni'n cael ei chynnal yn Abaty Westminster, yn Llundain.
Cafodd Sharon Gwobrau Anrhydeddau yn 2020 diolch i'w gwaith rhagorol yn ystod pandemig y Coronafeirws. Roedd Sharon wedi'i hadleoli o'i rôl arferol i arwain y gwaith o gaffael a dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol ar ran y Cyngor. Roedd y rôl hon yn arbennig o heriol o'r dechrau oherwydd cyflenwadau a chanllawiau cyfyngedig yn ymwneud â'r offer.
Mae ymdrechion gwych Sharon yn ystod y pandemig a'i gwaith parhaus yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i gael ei gydnabod gan y Teulu Brenhinol wrth iddi gael gwahoddiad swyddogol i fynychu Seremoni'r Coroni y penwythnos hwn.
Mewn ymateb i'w gwahoddiad, dywedodd Sharon: "Mae'n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i fynychu coroni'r Brenin Charles III. Mae'r coroni yn ddigwyddiad pwysig sy'n cydnabod llwyddiannau ac yn dathlu cyfraniadau i gymdeithas.
"Fel rhywun sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, rwy'n falch ac yn ddiolchgar am y gydnabyddiaeth y mae hyn yn ei gynrychioli ac mae'n anrhydedd i mi gael y cyfle i gynrychioli maes mor anhygoel a rhannu'r gydnabyddiaeth hon gyda fy nghydweithwyr.
"Mae'r gydnabyddiaeth yn dyst i bwysigrwydd gofal cymdeithasol yn ein cymdeithas a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei gael ar fywydau'r unigolion a'r cymunedau bregus rydym yn eu cefnogi.
"Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddathlu ein llwyddiannau a hoffwn estyn fy llongyfarchiadau a diolch i bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol am y gwaith caled a'r ymroddiad y maent yn ei gyflwyno i'w rolau er mwyn gwella bywydau pobl eraill."
Bydd y Teulu Brenhinol hefyd yn cynnal sawl seremoni swyddogol arall yn Llundain dros y dyddiau nesaf lle mae ambell wyneb cyfarwydd o'r Cyngor wedi eu gwahodd i fod yn bresennol.
Mae Naomi Meredith, Rheolwr Tîm mewn Adnoddau a Chynllunio, hefyd wedi'i gwahodd i Barti Gardd Frenhinol y Brenin ddydd Mawrth, 9 Mai ym Mhalas Buckingham. Bydd Naomi yn treulio'r prynhawn yng Ngerddi'r Palas a bydd yn cael cyfle i siarad ag aelodau'r Teulu Brenhinol.