Staffnet+ >
iExpenses yn cau cyn lansio Oracle Fusion
iExpenses yn cau cyn lansio Oracle Fusion
Os ydych chi wedi bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu ein trosglwyddiad i'r system Oracle Fusion newydd, byddwch chi'n gwybod erbyn hyn y bydd mai un o'r gwasanaethau mewnol cyntaf i newid drosodd i Fusion yw hawliadau costau.
Gwnaethom gyhoeddi’r wythnos diwethaf y bydd y system Oracle iExpenses presennol yn cael ei thynnu i lawr ar 1 Mawrth 2023.
Heddiw yw'r diwrnod hwnnw felly peidiwch â chyflwyno unrhyw hawliadau costau ar iExpenses ar ôl diwedd y dydd nes bod y system Oracle Fusion newydd ar waith ym mis Ebrill.
Pan fydd y system newydd yn fyw ym mis Ebrill, bydd pob aelod o staff yn gallu cyflwyno hawliadau treuliau’n ddigidol gyda llwyfan newydd, hawdd ei ddefnyddio, sef Oracle Fusion. Bydd pob hawliad treuliau’n cael ei brosesu'n ddigidol o'r dyddiad hwn ymlaen.
Dylid hefyd ddal hawliadau costau ar ffurflen nad ydynt yn cael eu cyflwyno cyn dyddiad cau'r gyflogres ar 1 Mawrth yn ôl a’u rhoi ar y system iExpenses newydd ym mis Ebrill. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio iExpenses ar eich dyfais gorfforaethol neu bersonol.
Ar ôl lansio Oracle Fusion ym mis Ebrill, bydd treuliau yn cael eu talu ar wahân i'ch cyfrif banc gan y tîm Cyfrifon Taladwy yn hytrach nag fel rhan o'ch cyflog yn fisol.
Bydd gwybodaeth, gan gynnwys canllawiau cam wrth gam ar sut i hawlio treuliau drwy Fusion, yn cael ei hychwanegu at hyb Oracle Fusion ac IDev wrth i ni agosáu at lansio Oracle Fusion.
Os hoffech wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi yna cysylltwch â thîm prosiect Fusion.
Cysylltwch â'r tîm drwy’r ddolen isod os oes gennych unrhyw bryderon.
Cysylltu â’r tîm