Oracle Fusion: Anfonebau ac iProcurement

Cyn bo hir, bydd y ffordd y mae archebion yn cael eu codi ac anfonebau'n cael eu talu yn newid.

 

Mae ein system newydd, ar gwmwl, Oracle Fusion i fod i lansio'r mis Ebrill hwn, gan ddisodli'r system Oracle bresennol.

Bydd y system bresennol yn cael ei disodli ar 31 Mawrth 2023 ond ni fyddwn yn gallu prosesu anfonebau wedi’u paru ag Archebion Prynu ar ôl 17 Mawrth 2023.

Ni fyddwn yn gallu creu unrhyw Gyflenwyr newydd ar ôl 10 Mawrth 2023 felly cofiwch gyflwyno unrhyw geisiadau am gyflenwyr newydd erbyn 12pm ar 7 Mawrth 2023.

Fel rhan o'r trosglwyddiad, mae angen i ni sicrhau bod yr holl anfonebau agored ar y system yn cael eu cysoni a'u talu erbyn 17Mawrth 2023.

Os anfonwch eich anfonebau i'r tîm canolog, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu cyflwyno erbyn 12pm ar 15 Mawrth 2023 i warantu taliad.

Gwnewch yn siŵr hefyd fod yr holl gymeradwyaethau iProcurement a derbynebau iProcurement yn gyfredol os ydynt yn berthnasol. Ni fydd y system iProcurement ar gael ar ôl 17 Mawrth 2023 gwnewch yn siŵr y caiff pob archeb ei chodi erbyn 15 Mawrth 2023.

Yn ogystal, ni fydd unrhyw anfonebau archebion prynu yn cael eu talu ar ôl 17 Mawrth.

I gynorthwyo gydag ansawdd y data sy'n cael ei drosglwyddo i'r system newydd, gall ceiswyr hysbysu Caffael ynghylch unrhyw archebion prynu, sy'n dal ar agor, ond gellir eu cau.

Bydd timau mewnbwn o bell yn gallu mewnbynnu anfonebau hyd at 12pm ar 31 Mawrth 2023. Sicrhewch fod pob daliad yn cael ei ryddhau erbyn hyn.

Mae disgwyl i system dalu newydd Oracle Fusion fod ar gael o 3 Ebrill 2023. 

Os ydych chi'n ddefnyddiwr sy'n bodoli eisoes neu'n ddefnyddiwr cyfrifon taladwy, cysylltir â chi ynghylch trefniadau hyfforddi yn fuan.

Oracle Fusion Invoices and Iprocurement (3)

Os ydych am anfon cyfathrebu i gyflenwyr rheolaidd mae geiriad awgrymedig ar y ffurflen wedi'i chynnwys isod;

"Oherwydd gosodwaith system gaffael a thaliadau integredig newydd, gallai fod oedi wrth brosesu anfonebau rhwng 15 Mawrth 2023 a 3 Ebrill 2023.

I gynorthwyo gyda thalu unrhyw anfonebau sy’n ddyledus yn gyflym, gwnewch yn siŵr fod unrhyw anfonebau sy'n ddyledus yn cael eu cyflwyno ynghyd ag unrhyw nodiadau credyd dyledus erbyn 15 Mawrth 2023."

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: Creditors@ValeofGlamorgan.gov.uk.

Os hoffech wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu yna cysylltwch â ni.

 Oracle-cloud-logo