Mae’n Bythefnos Masnach Deg

Rydym hanner ffordd trwy Bythefnos Masnach Deg, menter gan y Fairtrade Foundation, sy'n rhedeg o 27 Chwefror tan 12 Mawrth.
Bydd Pythefnos Masnach Deg eleni yn tynnu sylw at y bygythiad brys i ddyfodol y bwydydd rydyn ni'n eu caru, a bywoliaeth y bobl sy'n eu tyfu, a hynny wrth iddynt wynebu effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd.
Heb ein cefnogaeth am brisiau tecach heddiw, bydd ffermwyr yn ei chael hi'n anoddach fyth i fynd i'r afael â heriau hinsawdd ac economaidd y dyfodol.
Y pythefnos hwn a thu hwnt, mae Masnach Deg yn gofyn i siopwyr weithredu nawr a dewis Masnach Deg i gefnogi'r ffermwyr y tu ôl i rai o'n hoff gynnyrch, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu talu'n deg ac yn gallu cadw i ffermio drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.
Beth bynnag yw eich cyllideb a ble bynnag rydych chi'n siopa, gall defnyddwyr ddewis cynhyrchion Masnach Deg heddiw i gefnogi ffermwyr er mwyn sicrhau bod ganddynt dâl tecach i wynebu'r argyfwng hinsawdd a pharhau i gynhyrchu'r bwydydd rydyn ni'n eu caru. Drwy ddewis Masnach Deg nawr, rydych chi'n sefyll gyda ffermwyr a gweithwyr ledled y byd dros incwm tecach, fel gyda'n gilydd gallwn ddiogelu dyfodol ein bwyd.
Rydym hefyd yn eich annog i feddwl am effaith amgylcheddol eich siop fwyd. Yn rhy aml o lawer, mae'r bwyd rydym yn ei fwyta wedi teithio pellteroedd mawr – weithiau gannoedd neu filoedd o filltiroedd – i gyrraedd ein platiau.
Fel rhan o'n hymrwymiadau #ProsiectSero rydym wedi cymryd camau i leihau'r milltiroedd bwyd ledled y Cyngor, fel newid i gyflenwyr lleol, dileu plastigau untro yn y cwmni arlwyo Big Fresh a hyrwyddo prynu cynnyrch lleol.
Gallwch olrhain milltiroedd bwyd eich siop ar-lein yma.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Masnach Deg.