Cydweithwyr yn y Gwasanaethau Tai yn ennill yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni 

Housing Awards

Fis diwethaf, roedd cydweithwyr o dîm Gwasanaeth Tai'r Cyngor yn dathlu wedi noson lwyddiannus yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol 2023.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 10 Chwefror yn Voco Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle enillodd y tîm wobr am Brosiectau Mawr dros £250k.

 

Mae Gwobr Prosiect Mawr Rhanbarthol y Flwyddyn yn gwobrwyo un prosiect eithriadol, ym mhob un o'r 11 ardal Ranbarthol ledled y DU.

 

Mae'r wobr yn cydnabod ymdrechion pawb sy'n gysylltiedig yn lleol wrth gyflwyno prosiect arbed ynni mawr llwyddiannus, tra'n cynnal gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid sy'n dangos safon gwaith uchel drwy gydol y prosiect.

 

Daeth y gydnabyddiaeth hon yn dilyn enwebiad llwyddiannus eleni.

 

Cynrychiolwyd y Cyngor yn y gwobrau gan Adrian Thomas.  Roedd Adrian yno i gasglu'r wobr ynghyd â chynrychiolwyr o SMK, y contractwr sy'n rhan o'r prosiect.

 

Mae'r prosiect llwyddiannus yn rhan o fuddsoddiad mawr y Cyngor yn ei stoc tai i leihau potensial tlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon. 

Mae'r cynllun llwyddiannus yn cynnwys cartrefi yn ardaloedd Glanmor, Parklands a Llanilltud Fawr.

Mae ennill y lefel ranbarthol yn rhoi mynediad awtomatig i'r gwobrau cenedlaethol, felly gallwn ddymuno pob lwc i'r tîm yn y camau nesaf.