Newidiadau i GLAM

Yn galw ar yr holl aelodau a chynghreiriaid presennol ac arfaethedig 

 GLAM new logo 600x313

Rydym eisiau gwneud newidiadau i arweinyddiaeth GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTCRh+ a gwahodd aelodau newydd.

Mae ein Cadeirydd diweddaraf wedi symud ymlaen i rôl newydd mewn sefydliad arall felly rydym yn gwahodd diddordeb ar gyfer Cadeirydd, Is-gadeirydd a saith rôl Aelod o'r Grŵp Llywio.   

Rydym yn croesawu diddordeb gan aelodau a chynghreiriaid, er yr hoffem i'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ddod o aelodau'r gymuned LHDTCRh+.

Rydym yn credu, drwy gael mwy o bobl yn ymwneud ag arweinyddiaeth GLAM, y gellir rhannu'r gwaith dan sylw fel ei fod yn fwy hylaw a gallwn fod yn fwy hyblyg o ran pwy sy'n cymryd rhan mewn darn o waith ar adeg benodol.  Rydym hefyd yn awyddus i weld cynrychiolaeth o wahanol isadrannau’r gymuned LHDTCRh+.

Fel rhwydwaith staff, mae GLAM yn cynnig cymorth i gydweithwyr LHDTCRh+, yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a chodi ymwybyddiaeth, yn cymryd rhan mewn digwyddiadau Pride lleol, yn gweithio tuag at welliannau o dan Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall ac yn rhoi adborth i'r Cyngor ar bolisi ac arferion.

Os hoffech ymuno â GLAM fel aelod neu gynghreiriad cwblhewch y ffurflen aelodaeth a bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth gan GLAM ac yn cael eich gwahodd i gyfarfodydd a digwyddiadau'r dyfodol.

Os hoffech fynegi diddordeb yn rolau'r Cadeirydd, Is-gadeirydd neu'r Grŵp Llywio, e-bostiwch GLAM erbyn 22 Mawrth 2023.   Os hoffech gael sgwrs amdano, cysylltwch â Nicola Hinton neu Elyn Hannah.