Message from the Leader and Chief Exec

Annwyl Gydweithwyr,

Gyda thristwch mawr yr ydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu am farwolaeth y cyn-gynghorydd, Anne Moore, a fu farw'n heddychlon yn ei chartref fore Llun, 6 Mawrth.  

Cllr Anne MooreBu Anne yn aelod etholedig yn cynrychioli ward Cadoc yn y Barri am bron i 30 mlynedd wedi bod yn gynghorydd tref o'r blaen. Cafodd ei hethol am y tro cyntaf ym 1994 a safodd i lawr cyn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf a gynhaliwyd ym mis Mai 2022.  Roedd Anne yn wraig i gyn-Arweinydd y Cyngor, Neil Moore, a fu hefyd yn cynrychioli ward Cadoc am dros 30 mlynedd.

Daliodd Anne amryw swyddi yn ystod ei chyfnod mewn swyddi etholedig, gan gynnwys cadeirydd pwyllgorau ac fel Maer y Barri. Roedd Anne yn adnabyddus am ei sylw i fanylion, ei meddwl chwilfrydig a'i hagwedd garedig at y bobl y bu'n gweithio gyda nhw.

Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Neil, Rhiannon a'u teulu cyfan yn ystod y cyfnod anodd hwn.  

Os hoffech rannu eich cydymdeimlad neu gynnig ychydig o gefnogaeth, mae'r teulu wedi sefydlu tudalen codi arian ar gyfer Marie Curie UK, a fu'n gofalu am Anne am gyfnod byr tuag at ddiwedd ei hoes, ac sy'n darparu gofal diwedd oes hanfodol a chefnogaeth i deuluoedd.

Os ydych yn dymuno talu eich parch i Anne Moore, bydd ei angladd yn cael ei gynnal am 13:30 ar  ddydd Iau 30 Mawrth 2023 yng Nghartref Angladd A.G. Adams, ac yna gwasanaeth byr yn amlosgfa'r Barri am 15:00. Bydd y teulu hefyd yn dal gwylnos yn y Spinney (Seashore Grill) yn Sili gyda diodydd a lluniaeth.

Rob Thomas, 
Prif Weithredwr 

Y Cynghorydd Lis Burnett,
Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg