Allech chi helpu i gefnogi rhywun i fyw ei fywyd gorau?  

Cyflwyniad i’r GLlO 

Ydych chi'n adnabod rhywun, neu a fyddai gennych ddiddordeb mewn bod yn westeiwr? Gallech fod yn rhan o gyfnod twf cyffrous i’r GLlO.  
 
Mae'r Gwasanaeth Lleoliadau Oedolion (Bywydau a Rennir) yn galw ar bobl i ymrwymo i agor eu cartrefi i unigolion sydd ag anghenion cymorth a llety.  

Trefniant lle mae gwesteiwyr cymeradwy neu ofalwyr yn rhoi cymorth a llety i oedolion sy'n agored i niwed yn ein cymuned yw’r GLlO.  

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl dros 18 oed sydd ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, iechyd meddwl neu ddementia. 

Nod Gwasanaeth Lleoliadau Oedolion yw cefnogi unigolion i ddatblygu'r sgiliau ymarferol, cymdeithasol, ac emosiynol i wneud eu dewisiadau eu hunain mewn bywyd a bod mor annibynnol â phosibl, tra'n parhau i fod yng nghanol eu cymuned.

Mae'r tîm yn galw am westeiwyr newydd felly os oes gennych chi, neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod, ystafell wely sbâr a diddordeb mewn cael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm. 

Lle bynnag ydych chi mewn bywyd, boed yn gweithio neu wedi ymddeol, gallech helpu rhywun drwy ei gefnogi i fyw ei fywyd gorau. 

Mae'r tîm yn asesu ac yn hyfforddi gwesteiwyr, yn eu paru gyda defnyddwyr gwasanaeth, ac yn monitro lleoliadau fel bod y gwesteiwyr a’r defnyddwyr gwasanaeth yn elwa.  Maent yn helpu gyda phob math o leoliadau o leoliadau hirdymor i leoliadau 28 diwrnod brys.  

Beth yw’r manteision o fod yn westeiwr? 

  • Ennill bywoliaeth – mae ein gwesteiwyr ar draws y gwasanaethau'n ennill rhwng £424 a £617 y pen yr wythnos 
  • Bod yn rhan o gynllun cyffrous sydd yn ei hanfod yn helpu pobl i fyw eu bywyd gorau 
  • Mynediad i hyfforddiant a datblygiad parhaus   
  • Cymorth parhaus gan Weithiwr Prosiect dynodedig  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch gysylltu â'r tîm drwy e-bostio: adultplacement@bromorgannwg.gov.uk neu ffonio 01446 731105 a bydd un o'n tîm yn dod yn ôl atoch.