Staffnet+ >
Ysgolion cynradd y Fro yn dathlu yn Nigwyddiad Dathlu Ysgolion Iach y Fro
Ysgolion cynradd y Fro yn dathlu yn Nigwyddiad Dathlu Ysgolion Iach y Fro
Ar 28 Mehefin, dathlwyd cynllun Ysgolion Iach Bro Morgannwg yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo, Y Barri.
Wedi'i gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a thîm Partneriaeth Plant a Phobl ifanc y Fro, mynychodd ysgolion cynradd y digwyddiad i ddathlu'r gwaith sy'n digwydd yn ysgolion y Fro i hybu iechyd a lles ymhlith ein pobl ifanc.
Mae Cynllun Ysgolion Iach y Fro yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru, sy'n ceisio hyrwyddo a diogelu iechyd a lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc yn y Fro trwy fwyd a ffitrwydd, Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol, yr Amgylchedd, Diogelwch, Hylendid, Camddefnyddio Sylweddau, a Datblygiad Personol a Pherthnasoedd.
Ar ôl cyflwyniad gan Reolwr Atal a Phartneriaeth Bro Morgannwg, Mark Davies, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch, ac Uwch Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd, Catherine Perry, dechreuodd diwrnod o gyflwyniadau a gweithgareddau.
Dan arweiniad yr Uwch Swyddog Byw'n Iach, Rachel Shepperd, gyda chymorth disgyblion o Ysgol Gynradd Romilly, dechreuodd y diwrnod gydag 'Amser Deffro’ gyda’r ystafell ar ei thraed, yn dilyn cynllun ffitrwydd byr, hwyliog.
Ynghyd â chyfres o gyflwyniadau a gynhaliwyd gan y tîm Byw'n Iach, Cynllun Uwch Genhadon Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Eco-Sgolion Cadwch Gymru'n Daclus, Tîm Datblygu Chwaraeon y Fro a Chynllun Gwên, gyda mewnbwn gan nifer o ysgolion, fe wnaeth amryw o sefydliadau greu 'marchnad' o stondinau addysgiadol.

Gwahoddwyd disgyblion i bori drwy'r 'farchnad' i archwilio'r wybodaeth a'r cymorth sydd ar gael gan Lyfrgelloedd Bro Morgannwg, PATH Barnardo’s, Llysgenhadon Hawliau, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cynllun Gwên, Eco-Sgolion, Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro, Symud mwy bwyta'n dda/Bwyd y Fro, Tîm Ysgolion Iach, tîm Imiwneiddio, Gwasanaethau rheoliadol a rennir, tîm clefydau trosglwyddadwy, gofalwyr ifanc YMCA, Cymorth Addysg, Bullies Out, a thîm Byw'n Iach y Cyngor.