Yr Wythnos Gyda Rob

09 Mehefin 2023

Annwyl gydweithwyr,   

Gobeithio bod pawb yn iawn a’ch bod yn mwynhau'r tywydd braf.  

Yr wythnos hon mae'r Cyngor wedi bod yn dathlu dau grŵp o bobl y mae eu cyfraniad i'r gymuned yn amhrisiadwy. Mae'n Wythnos Gofalwyr ac yn Wythnos Gwirfoddolwyr.  

Careers Week I Care

Mae'r Cyngor wedi dathlu Wythnos Gofalwyr ers blynyddoedd lawer.  Mae’r ymgyrch genedlaethol wedi ei llunio i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i’w cymunedau.  Teitl ymgyrch 2023 yw Cydnabod a Chefnogi Gofalwyr yn y Gymuned.  

Mae bron i 13,000 o ofalwyr di-dâl ym Mro Morgannwg.  Mae'r rhain yn bobl sy'n gofalu heb dâl am aelod o'r teulu neu ffrind sâl, bregus neu anabl.  Mewn llawer o achosion, heb gefnogaeth gofalwyr di-dâl, ni fyddent yn gallu byw'n annibynnol nac yn eu cartrefi eu hunain mwyach, a byddai eu hanghenion yn dod yn fwy cymhleth.    

 Mae ein tîm Gwasanaethau Oedolion yn cynnig amrywiaeth o gymorth i bobl yn yr amgylchiadau hyn ac wedi bod yn cynnal digwyddiadau drwy'r wythnos.  Yn ogystal â hyn, fel Cyngor, rydym wedi bod yn rhannu gwybodaeth a straeon cadarnhaol am y rhai sy'n gofalu am eraill er mwyn helpu i sicrhau bod yr unigolion hyn yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael trwy'r Cyngor a'i bartneriaid ac yr un mor bwysig yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n cefnogi'r gwaith hynod bwysig hwn ac atgoffa unrhyw gydweithwyr a allai fod â chyfrifoldebau gofalu y tu allan i'r gwaith bod gan y Cyngor bolisi gofalwyr a thrwy gofrestru eich manylion, efallai y bydd gennych hawl i fwy o hyblygrwydd yn eich rôl er mwyn eich helpu i gydbwyso gofynion gwaith a bywyd yn well. 

Realiti llym y blynyddoedd diwethaf o ran gwasanaeth cyhoeddus yw na allwn bellach ddarparu'r holl wasanaethau y dymunem ei wneud ac a ddarparwyd yn y gorffennol. Yr hyn sydd wedi bod yn galonogol iawn dros y cyfnod hwn yw gweld twf grwpiau gwirfoddoli ar draws y Fro.  Mae'r wythnos hon hefyd wedi bod yn Wythnos Gwirfoddolwyr ac i orffen yr wythnos rydym yn dathlu gwaith unigolion a grwpiau sy'n rhoi o'u hamser i gefnogi eraill yn eu cymuned.  

Foodpod volunteers

Ddydd Mercher ymwelais â Pod Bwyd Penarth gydag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Burnett.  Sefyldwyd y pod bwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Breswylwyr, ond na fyddai'n gweithredu heb gyfraniad y gwirfoddolwyr anhunanol sy'n rhoi o'u hamser i'w staffio. Mae'r pod bwyd yn cynnig nwyddau darfodus ac mewn tuniau, nwyddau ymolchi a chynhyrchion hylendid i breswylwyr ar sail talu fel y mynnoch. Fodd bynnag, mae'r gefnogaeth a roddir gan y gwirfoddolwyr yn mynd llawer pellach na hyn.  Yn gynyddol maent yn cyrchu ac yn rheoli'r broses o gasglu bwyd ac yn aml maent yn bwynt cyswllt hanfodol i lawer o breswylwyr, maent yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau eraill yn yr ardal, ac ar adegau eraill, maent yn wyneb cyfeillgar i siarad â nhw.   Wrth siarad â thri o'r gwirfoddolwyr yr wythnos hon, roedd Isobel, Marianne a Sandra yn ysbrydoledig ac yn ein hatgoffa o ba mor aml y mae ein gwasanaethau'n gweithredu fel un rhan yn unig o rwydweithiau llawer ehangach o grwpiau cymunedol a thrydydd sector ehangach.

Mae cymaint o enghreifftiau gwych eraill o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser, eu hegni a'u sgiliau i gefnogi gwasanaethau a gofodau yn eu cymuned.   

llantwit more than food hub

Agorodd Canolfan Mwy na Bwyd Prosiect Bwyd Llanilltud FAwr yng Nghanolfan Gymunedol CF61 y llynedd. Yn y ganolfan mae gwirfoddolwyr a gweision cyhoeddus yn gweithio ochr yn ochr i gynnig cyngor ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys cyngor ar dai, iechyd meddwl a chorfforol, cyllid, budd-daliadau a hawliau, gweithgareddau iach a mwy. Cynhelir y Ganolfan law yn llaw â’r Chatty Café, Banc Dillad Sain Tathan a Phantri Rhannu Bwyd GVS, oll yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr cyfeillgar. 

Mae mwy na 30 o grwpiau 'ffrindiau' sy'n helpu i gynnal a gwella parciau a mannau gwyrdd ar draws y Fro.  Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy i roi cymaint o fannau awyr agored gwych i drigolion ac ymwelwyr eu mwynhau, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r mentrau bioamrywiaeth a Phrosiect Sero sy'n ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.  

Ers sawl blwyddyn bellach mae pump o lyfrgelloedd y Fro wedi cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr.  Er eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan dîm Dysgu a Sgiliau'r Cyngor, cyfraniad y grwpiau hyn sydd wedi sicrhau bod y llyfrgelloedd wedi aros ar agor ac yn gallu cynnig gwasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan y rhai sy'n ei ddefnyddio. 

Vale 50 plus logo

Mae grwpiau ieuenctid di-ri ar draws y sir sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae a chymdeithasu. Mae cannoedd o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i gefnogi clybiau chwaraeon i helpu pobl o bob oed i gynnal bywydau iach ac actif. Mae Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yn dwyn ynghyd grŵp o wirfoddolwyr sy'n gweithio i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn y Fro yn cael eu clywed.  

Dim ond llond llaw o enghreifftiau yw'r rhain o sut mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymaint i'r cymunedau a'r sefydliadau y maent yn eu cefnogi.  

glamorgan voluntary services logo

Fel Cyngor, fyddwn ni fyth yn cyflawni ein nod o gefnogi cymunedau cryf â dyfodol disglair oni bai ein bod yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn ddigonol. Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg ac mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn annog mwy o bobl i roi ychydig o amser i'r sefydliadau gwych sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol.  Ym mis Chwefror cytunodd y Cabinet ar bolisi Gwirfoddolwyr i Weithwyr newydd fel rhan o'n Strategaeth Pobl. Pan ddaw hyn i rym cyn hir bydd yn caniatáu i bob cydweithiwr wirfoddoli yn ystod oriau gwaith. Bydd hyn nid yn unig yn ychwanegu degau o filoedd o oriau o gapasiti gwirfoddolwyr i'r Fro ond hefyd yn rhoi cyfle i gydweithwyr ddod i adnabod rhai o'n sefydliadau partner, datblygu eu sgiliau proffesiynol mewn amgylcheddau heriol, ac ennill profiadau newydd. Byddaf yn rhannu mwy o wybodaeth am y polisi gwirfoddoli unwaith y bydd y Cabinet wedi ei gymeradwyo'n ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Rydyn ni wedi bod yn arddangos peth o'r gwaith rydw i wedi'i grybwyll yma ochr yn ochr â gwaith grwpiau gwych eraill ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol heddiw.  Os hoffech ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal neu'n meddwl y gallech weithio i helpu i gefnogi gwirfoddolwyr fel rhan o'ch rôl, cymerwch olwg i ddarganfod mwy. 

St John Ambulance Fall Response Vehicle 2

Mae gwasanaeth Teleofal y Cyngor yn enghraifft wych arall o weision cyhoeddus a gwirfoddolwyr yn cydweithio. Yn ddiweddar, aeth y tîm Teleofal i bartneriaeth gydag Ambiwlans Sant Ioan ar gyfer ei Wasanaeth Ymateb i  Cwympiadau newydd. Fel rhan o'r Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau, mae Ambiwlans Sant Ioan wedi dyrannu cerbyd newydd o'r radd flaenaf - Toyota RAV4 Hybrid i'w ddefnyddio wrth ofalu am ddefnyddwyr Teleofal y Fro. Mae'r gwasanaeth bob amser yn datblygu ffyrdd newydd o gefnogi ei gleientiaid a dyma un o'r ffyrdd y mae'n rhoi tawelwch meddwl i bobl hŷn a'u teuluoedd.   

Rydym bob amser yn chwilio am syniadau newydd ar sut i gyflawni ein hymrwymiadau i'r Fro ac efallai eich bod eisoes wedi gweld yr wythnos hon bod y Bwrdd Prosiect Sero yn gwahodd cynigion ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi ein gwaith yn uniongyrchol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Gallai rhain gynnwys cyllid cyfatebol i brosiect, hyfforddiant, astudiaethau dichonoldeb, ymgynghorwyr, offer, gweithgareddau ymgysylltu a chostau prosiect eraill. Bydd unrhyw beth a fydd yn helpu i gefnogi Prosiect Sero yn cael ei ystyried. Os oes gennych syniad newydd, neu ddarn o waith sy'n bodoli eisoes y gellid ei ehangu, yna cyflwynwch eich cais cyn 3 Gorffennaf. 

GLAM 06 June event

Yn fy neges yr wythnos diwethaf, soniais am gefnogaeth barhaus y Cyngor i Pride.  Ddydd Mawrth fe wnes i alw heibio i weld aelodau o rwydwaith GLAM yn eu cyfarfod i gynllunio ar gyfer Pride Cymru ar 17 Mehefin.  Fel bob amser, byddwn yn cymryd rhan yn yr orymdaith.   Pe byddech yn dymuno ymuno â chydweithwyr yn Pride Cymru, yna gallwch gofrestru eich diddordeb nawr. Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi trefnwyr Pride y Bont-faen, ac roedd yn wych cael ymuno â'r bore coffi a gynhaliwyd yn neuadd y dref fore Sadwrn diwethaf . Mae wythnos o ddigwyddiadau yn cael eu cynllunio yn y dref.. Mae'r trefnwyr yn chwilio am help gyda stiwardio'r orymdaith Ddydd Sadwrn 24 Mehefin. Os oes gennych ddiddordeb, gadewch i un o'n cynrychiolwyr GLAM wybod. 

ysgol bro moragnnwg choir

Yn olaf, soniais hefyd yr wythnos ddiwethaf pa mor wych oedd perfformiadau llawer o'n hysgolion ni yng Ngŵyl Fach y Fro. Yn dilyn hyn, disgleiriodd disgyblion Ysgol Bro Morgannwg hyd yn oed yn fwy ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwethaf. Enillodd y disgyblion bum gwobr gyntaf, un ail, ac un drydedd wobr. Llongyfarchiadau i bawb.  Bu disgyblion Ysgol Pen y Garth, Ysgol Sant Baruc, ac Ysgol Gynradd Tregatwg hefyd yn cystadlu ac rwy'n gwybod bod llawer o rai eraill wedi mynd draw i fod yn rhan o ddathliad o ddiwylliant Cymru. Diolch yn fawr i'r holl gydweithwyr hynny ar draws ein hysgolion a wnaeth hyn yn bosibl i'r plant.  

Fel bob amser, diolch am eich gwaith yr wythnos hon. Diolch yn fawr i bob un ohonoch.   

Rob.