Staffnet+ >
Wythnos Gofalwyr - 5 i 11 Mehefin 2023
Wythnos Gofalwyr - 5 i 11 Mehefin 2023
Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod eu cyfraniad i deuluoedd a chymunedau. Mae saith elusen flaenllaw yn cefnogi’r wythnos.
Y thema ar gyfer 2023 yw 'Cydnabod a Chefnogi Gofalwyr yn y Gymuned'.
Dywedodd Cyfrifiad 2021 wrthym fod 12,923 o ofalwyr di-dâl ym Mro Morgannwg, sy'n gofalu’n ddi-dâl am aelod o’r teulu neu ffrind sy’n sâl, yn fregus neu’n anabl. Mae'n debyg y byddai'r bobl hyn dweud "Rwy’n bod yn ŵr, gwraig, mam, tad, mab, merch, ffrind neu gymydog da, dyna’i gyd."
Mae gofalwyr di-dâl yn helpu gyda phethau personol fel gwisgo rhywun, eu troi yn eu cwsg, eu helpu i'r toiled, eu helpu i symud o gwmpas neu i gymryd eu meddyginiaeth. Mae Gofalwyr Di-dâl hefyd yn helpu gyda phethau fel siopa, golchi dillad, glanhau, coginio, llenwi ffurflenni neu reoli arian, cefnogi lles emosiynol a meddyliol.
Mae gofalwyr di-dâl yn wynebu nifer o heriau, felly mae'n bwysig eu bod yn cael cymorth.
Mae Bro Morgannwg yn cynnal rhaglen o weithgareddau ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2023:
Y Fro ar Fynd - Ioga Rhithwir
Dydd Mawrth 6 Mehefin
Mynediad: Anfonir dolen ar-lein wrth gofrestru
Cost: AM DDIM
Archebwch le ar ymwybyddiaeth cymorth cyntaf gofalwyr di-dâl
Sesiwn Galw Heibio Codi a Chario
Dydd Mercher 7 Mehefin
10:00am – 3:00pm
Ydych chi'n helpu i ofalu am rywun ac angen rhywfaint o arweiniad ar symud, codi a chario? dych chi am wybod mwy am ddulliau codi a chario mwy diogel wrth gynorthwyo person i symud; neu am ba offer sydd ar gael?
Lle: Uned 5, Adeilad BSc, Hood Road, Y Barri, CF62 5QN
Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf
Dydd Gwener 9 Mehefin
10:00am – 3:00pm
Mae’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf yn sesiwn 4 awr a gynhelir gan CHCC - Cyflenwadau a Hyfforddiant Cymorth Cyntaf mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg. Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r hyn i'w wneud mewn argyfwng a sut y gallwch helpu yn y sefyllfa.
Lle: 305 Gladstone Road, Y Barri, CF63 1NL
Archebwch le ar ymwybyddiaeth cymorth cyntaf gofalwyr di-dâl neu ffonio 01446 704851
Mae uchafswm o 12 lle ar gael.
Atal a Rheoli Trais ac Ymddygiad Bygythiol - Rheoli Ymddygiad Heriol
Dydd Mawrth 13 Mehefin
9:30am – 1:30 pm
Mae'r cwrs Dad-ddwysáu wedi'i gynllunio ar gyfer y gofalwyr di-dâl hynny a allai gael eu cyflwyno gydag ymddygiadau a allai gael eu hystyried yn dreisgar ac ymosodol.
Lle: Ystafell Cosmeston, Y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn Y Barri
Atal a Rheoli Trais ac Ymddygiad Bygythiol – Rheoli Ymddygiad Heriol i Ofalwyr Di-Dâl neu ffonio 01446 704851