Staffnet+ >
Ymunwch â GLAM ar gyfer Parêd Pride Caerdydd ar 17 Mehefin
Ymunwch â GLAM ar gyfer Parêd Pride Caerdydd ar 17 Mehefin
Diolch i bawb a ddaeth i’r sesiwn GLAM wythnos diwethaf, roedd yn hyfryd cwrdd â chynifer ohonoch chi. Rydym yn deall yn llwyr nad oedd rhai unigolion yn gallu mynychu oherwydd ymrwymiadau gwaith, felly dyma benderfynu y byddem yn rhannu rhywfaint o'r hyn a drafodwyd ddoe a'r hyn mae GLAM wedi'u cynllunio ar gyfer y mis hwn, gan gynnwys Gorymdaith Pride Cymru.
Rydym hefyd wedi atodi'r cyflwyniad gwybodaeth sy'n manylu ar yr holl weithgareddau sydd ar y gweill ar gyfer y mis a chynlluniau ar gyfer GLAM yn y dyfodol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â GLAM fel aelod LHDTC+ neu gynghreiriad, llenwch y ffurflen isod. Rydym bob amser yn chwilio am syniadau a mewnbwn newydd i lunio'r rhwydwaith ac adeiladu ar gynhwysiant yn y gweithle.
Ffurflen Aelodaeth GLAM
Yn ogystal ag ymuno â GLAM, rydym hefyd am estyn gwahoddiad i gymryd rhan ym Mharêd Pride Cymru ar ddydd Sadwrn, 17 Mehefin yng Nghaerdydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn dangos eich cefnogaeth ac ymuno â'r Cyngor i gymryd rhan yn y parêd, llenwch y ffurflen isod a gallwn roi gwybod i chi am y cynlluniau ar gyfer y diwrnod.
Ffurflen Cofestru Parêd Pride Cymru
Fel y mae rhai ohonoch eisoes yn gwybod, bydd y Bont-faen yn cynnal nifer o ddigwyddiadau Balchder rhwng 19 a 25 Mehefin. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i drefnu digwyddiadau Balchder y Bont-faen. Mae hyn yn ffordd wych o gymryd rhan mewn digwyddiadau Balchder sy'n digwydd yn ein cymuned leol.
Gwirfoddolwr ar gyfer Digwyddiadau Balchder y Bont-faen
Yr wythnos hon, cyflwynodd TG gefndiroedd Teams newydd i GLAM. Dangoswch eich cefnogaeth trwy newid eich cefndir Teams yn y gosodiadau fideo.
Cofiwch, mae GLAM yn agored i bawb, boed yn uniaethu fel LHDTC+ neu fel cynghreiriad. Credwn mai amrywiaeth yw ein cryfder, a gyda'n gilydd, gallwn greu newid cadarnhaol.