Pride 2023
Ymunodd cynghorwyr, cydweithwyr, ffrindiau a theulu â GLAM yng ngorymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd ar 17 Mehefin.
Roedd y strydoedd yn llawn gwylwyr cefnogol wrth i filoedd o bobl orymdeithio trwy ganol dinas Caerdydd mewn heulwen gogoneddus.
Gwnaethom gario placardiau yn dangos gwerthoedd corfforaethol y Cyngor, sydd hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynhwysiant a chydraddoldeb. Roedd ein baner GLAM yn edrych yn anhygoel ymhlith yr holl enfysau eraill.
Yna aeth nifer i ddigwyddiad Pride ei hun yng Nghastell Caerdydd.
Gorymdeithiodd grŵp llai yr un mor frwdfrydig hefyd yn Pride y Bont-faen yr wythnos ganlynol ar 24 Mehefin. Ymunodd Jane Hutt AoS a’r ymgeisydd Llafur ar gyfer y Fro, Kanishka Narayan, â nhw.
