Wythnos y Lluoedd Arfog 2023

Mae wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog: sef milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, cadetiaid a theuluoedd y Lluoedd.
Ddydd Mercher 21 Mehefin am 10.30am, bydd Maer Cyngor Bro Morgannwg, Julie Aviet, yn ymuno â’r Arweinydd, Lis Burnett, ac eraill am wasanaeth byr y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i i nodi’r digwyddiad.
Gwahoddir trigolion a staff y Cyngor i fynychu'r seremoni i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog. Bydd y Cyngor hefyd yn ffrydio'r gwasanaeth yn fyw ar Facebook i'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ac mae ein Gwasanaeth Cynghori Cyn-filwyr yn cynnig amrywiaeth o gymorth i gymuned y Fro.