Ymunwch â ni yng nghyfarfod nesaf Diverse ar 18 Gorffennaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Grŵp Diverse am 3pm, ddydd Mawrth 18 Gorffennaf yn Ysgol Gynradd Heol Holltwn.

Yn Diverse, rydym wedi gweithio ar brosiectau gwych dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac wrth i dymor yr haf ddod i ben, rydym yn bwriadu dechrau cynllunio amserlen digwyddiadau'r hydref.

Ymunwch â ni ddydd Mawrth nesaf i rannu eich syniadau, cynllunio ar gyfer y tymor nesaf, a myfyrio ar ein prosiectau a'n digwyddiadau diweddar.

Arddangosfa Prosiect Celf 

Holton Road Primary School Art ExhibitionEleni, rydym wedi gweithio'n agos gyda disgyblion Blwyddyn 6 yn Heol Holltwn ar brosiect celf sy'n dathlu aelodau staff y Fro o gefndiroedd amrywiol. Gweithiodd y disgyblion gyda'r artist o Gaerdydd, Prith-B a’r artist llafar Duke Durham i greu gwaith celf a barddoniaeth anhygoel yn seiliedig ar aelodau Diverse sy'n rhan o'r prosiect.

Trwy gyfweliadau, rhoddwyd cyfle i'r plant gael dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd go iawn mewn perthynas â pherthyn, a sut gallai'r profiadau hynny ddylanwadu ar y ffordd y mae ein haelodau eisiau cael eu cynrychioli yn eu portreadau.

Yn y cyfarfod ddydd Mawrth, cewch gyfle hefyd i weld gwaith celf anhygoel Blwyddyn 6 a myfyrio ar ddathliadau Windrush 75 Holltwn.

Rydym Am Glywed Oddi Wrthych!

Os na allwch ddod i'n cyfarfod yn bersonol, byddem wrth ein bodd yn clywed am eich syniadau, unrhyw ddigwyddiadau rydych chi'n meddwl y gallai Diverse fod â diddordeb ynddynt neu bynciau trafod yr hoffech i ni eu hystyried.

Llenwch y ffurflen isod i rannu eich syniadau gyda ni:

Ffurflen Syniadau Grŵp Diverse 

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ar ddydd Mawrth.

Ymunwch â Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff!