Tîm Cartref Porthceri yn cael eu Synnu wrth Ddathlu Gwobr Gofal Cymdeithasol

Nid oedd Adina Muhammed a Laura Davies, Rheolwyr Dros Dro yng Nghartref Preswyl Cartref Porthceri, yn gallu mynychu Seremoni Wobrwyo Gofal Cymdeithasol yn Neuadd Gelfyddydau Memo ym mis Ebrill, ond cafodd y ddwy eu synnu gan ddathliad arall gan Lance Carver a'r Cynghorydd Eddie Williams.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Tîm Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol y Fro Seremoni Wobrwyo 'Rhagoriaeth mewn Gofal' yn y Memo, gyda mwy na 150 o ddarparwyr gofal sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor ac wedi eu comisiynu’n breifat yn mynychu.

Cartref Porthceri Social Care Award Celebration

Roedd y seremoni, a gynhaliwyd gan y cyflwynydd newyddion teledu Sian Lloyd, yn dathlu darparwyr gofal ledled Caerdydd a'r Fro ar gyflawni Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2-5.

Oherwydd gwrthdaro gydag amserlenni, nid oedd dau ddarparwr gofal rhagorol y Cyngor, Adina a Laura, y ddwy yn gweithio fel Rheolwyr Dros Dro yn Cartref Porthceri ar hyn o bryd, yn gallu mynychu'r digwyddiad.

Heb fod eisiau iddynt golli allan ar ddathlu eu Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5, fe wnaeth Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, synnu'r ddwy yn y gwaith er mwyn eu llongyfarch yn bersonol am eu cyflawniadau a chyflwyno bag o roddion, a dderbyniodd gwesteion y digwyddiad, iddynt.

Dywedodd Adina: "Mae'r rhai ohonom sydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi dewis gwneud hynny am wahanol resymau, ac eto rydym i gyd yn rhannu awydd i wasanaethu ein cymunedau.

"Pan ddechreuais i fel cynorthwyydd gofal, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n dod yn ddirprwy reolwr yn un o gartrefi gofal y Fro rhyw ddydd. Dros y blynyddoedd rwyf wedi cael cyfle gwych i ddatblygu a symud ymlaen yn fy ngyrfa.

"Rwy'n ddiolchgar i'r bobl sy'n ymddiried ynof bob dydd i ofalu am eu hanwyliaid. Rwyf wedi gweithio gyda llawer o gleifion sydd ag anghenion cymhleth, ac mae wedi bod yn fraint cael darparu'r gofal a'r gefnogaeth emosiynol o ansawdd uchel y maent yn eu haeddu.

"Rwy'n hynod ddiolchgar fy mod wedi gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr anhygoel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd, ac am y gefnogaeth a'r cyfleoedd a gefais i symud ymlaen yn fy ngyrfa."

Dechreuodd Adina a Laura fel Cynorthwywyr Gofal yn 2013 a 2014 yn y drefn honno. Gweithiodd Laura ei shifft gyntaf erioed yng Nghartref Preswyl Southway gydag Adina, a gyda'i gilydd mae'r ddwy wedi symud ymlaen trwy eu gyrfaoedd a'u cymwysterau Gofal Cymdeithasol.

Yn 2022, cafodd Adina a Laura gymhwyster Lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ers hynny, mae Laura eisoes wedi dechrau ar ei chymhwyster Lefel 7.

Mae'r Cyngor a phreswylwyr Cartref Porthceri yn ffodus i gael unigolion mor weithgar ac ymroddedig fel Adina a Laura fel rhan o'n hadran Gwasanaethau Cymdeithasol.

Da iawn!